Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD^ rhif. 31. MEDI, 1862. cyf. III. CENADAETII BEDYDDYWR AMEIHCA. Gan fod Mynegiad y Genadaeth hon wedi dyfod i'm llaw, nid peth anhyfryd gan fy narllenwyr fÿdd gweled ychydig o'i hanes y tìwyddyn hon etto. Blwyddyn ryfbdd ac ofnadwy, fel y gwyr pawb, oedd y tìwyddyn dcliweddaf yn y wlad ëang hon. Gan fod y rhyfel cartrefol mor ddychrynllyd, ac yn parhau felly trwy ystod y tìwyddyn Genadol, (ac yn parhau etto, fel y mae gwaethaf y modd) yr oedd y brodyr Americanaidd yn ofni y buasai y Genadaeth yn gorfbd gocldef i raddau mwy nag erioed—os nid mwy nâ lianner ei lladd, neu hanner ei thori i íÿny. Mae yn sicr fod sail eu hofn yn amlwg. Yr un peth fuasai ein hofn, an pryder ninau yn y wlad hon, pe buasai y fjath anffawd wedi dygwydd yn ein Teyrnas. Nid wyf fi am brophwydo yn ddrwg am America, nac, o gwrs, yn dymuno drwg iddi; ond yn hytrach, er mwyn íý mrodyr, pe na byddai dim arall yn fy ngolwg, dywedaf, " Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Hedd- wch fyddo i ti. Er mwyn tŷ yr Arolwydd ein Duw y ceisiaf i ti ddaioni." Etto, y mae arnaf ddigon o ofn fod y wasgfa yn ol, a'r caledi mwyaf lieb ei deimlo hyd yn hyn,—ac y bydd i'r Eg- lwysi a'r Cymdeithasau da a chrefyddol i gaei teimlo etto yn ddwysach effeithiau creulawn y rhyfel presenol. Bydded i Dduw, yr hwn sydd yn gallu darostwng rhyfel o'r tir, i gyf- ryngu yn fuan ar ran America, a'i enw a gaifí'ei ogoneddu. ünd, i ddychwelyd at yr hanes. Er fod ei brodyr yn ofni yn nechreu y flwyddyn Gcnadol ddiweddaf, gwelodd Duw yn