Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

___Y GWYLFEDYJ)I). rhtf. 32. HYDREF, 1862. /.rẅí/ÜÍ. SYMUDIADAU Y BEDYDDWYE MEWN CYS- SYLLTIAD A CHOPFADWEIAETH TEOAD ALLAN Y DDWY FIL YN 1662. Mae yn sicr fod bywyd, sêl, diwydrwydd, a gweithgarwch o galon, mewn cyssylltiad â gwaüh da, yn.bethau nas gellir ìlai nâ'u cymmeradwyo yn fawr. Ac nid yn unig hyny, ond, y mae y rhinweddau hyn yn y gweithiwr da, yn creu chwant gweithio ar ereill ag oedd o'r blaen i raddau yn ddiog a diar- chwaeth at waith. Heblaw hyny, mae y gweithwyr ag sydd yn arfer ymaflyd yn eu gwaith â'u holl egni yn gysur i'w gilydd, ac telly, y maent yn gweithio yn well yn ngolwg ac yn nghlyw eu gilydd, yn hytrach nâ phe byddent y naill yn anwybodus o'r llall. Am y gwyddai yr Apostol Paui yr athrawiaeth hon, yr oedd yn arferol o wneyd yn hysbys ddi- wydrwydd a gweithgarwch y naill eglwys i'r llall; ac yn benaf oll, dangosai faint oedd ein Hargîwydd lesu Grist wedi ei weithio a'i wneuthur drosom ni oll. Gwel, er enghraifl't, 2 Cor. viii. Ystyriwn fy hun yn feius ac yn ddrwg iawn, pe y cuddiwn, neu, o leiaf, y peidiwn wneuthur gweithrediadau eglwysi y Bedyddwyr yn hysbys y naill i'r llall y dyddiau hyn, mewn cyssylltiad â They&obb'A Oofí'ADWRIAEthol y Ddwy Fll. Nid oes achos i mi fyned yn ol at hanes dechreuad y symudiad hwn-r-at y gwahanol bwyllgorau, a'u gweithrediadau, &c. Mae hyn yn hysbys trwy yr holl eglwysi, trwy offeryngarwch y cylch-lythyrau a anfonwyd allan gan yr Ysgrifenyddion, y Cadeirydd, a Goruchwyliwr (Ágent) náilduol y pwyllgor, Mr. Ll. Jenldns ; yn nghyd â'r sylwadau parhaus a wnawd o bryd i bryd gan y Golygydd, Mr. Price, yn ■Seren Cymru; ac nid wyf finau wedi bod yn gwbl ddys-