Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

rhif. 36. CHWEFROR, 1863. cyf. III. @rçm gançsgdttol Y WALDENSIAID. Ymddengys fod Waldensiaid yn enwad cyffredin ar ym- neillduwyr y canol oesoedd. " Adwaenid y bobl hyn wrth wahanol enwau mewn gwahanol barthau; wrth yr enwau Càthari neu Buritaniaid, yn Germani; yn ardal Cologne yn Danphine, gelwid hwy Iosephiaid ; yn Languedoc, Henriaid ; yn nhywysogaeth Milan, Pateriniaid; yn Lloegr, Lolardiaid, oddiwrth Walter Lolard, gweinidog Waldensaidd." (Book of the Benominations, p. 125). " Yn Spaen, gelwid hwy Navarri; yn Ffrainc, Vaudois; yn Lombardy, Yaldenses, sef preswylwyr y dyffrynoedd." (Orc/iard,p.24!j). "Galwant eu hunain Ÿaldenses," ebai esgob Newton, "am eu bod yn preswylio yn nyffryn dagrau." Mae chwilio am hanes yn gyffredin, allan o gylch hyn o ddarlith ; fy mhwnc i yw profi fod eglwysi o Pedyddwyr cyn amser Luther. Dywed y Pab- yddion mai y Waldensiaid oedd yr hereticiaid hynaf yn y byd. .Dywed Reiner Sacco, iddynt flodeuo tua'r fiwyddyn 650. Paul Perrin a'u hystyria yn hiliogaeth y Noyatiaid a yrwyd o Rufain, B.A. 400. Dywed Bossuet mai math o Ddonat- iaid oedd y Yaudois. Tra mae ereill yn tybied eu bod mor hen â'r oes apostolaidd. (Grwélyr Awdurdodau yn Orchard.) Yr oedd gan Dduw ei dystion yn mhob oes. Sonir am ddi- wygiad yn yr Aipht tua y flwyddyn 670 fel yma,—•" Ar ol pregethu y ffydd yn yr iawn ddull, gweinyddid bedydd Crist gyda y fath barch nes i rai gwledydd ereill adferu y grefydd Gristionogol yn ol eu hesiampl. Gwahaniaethant fel hyn oddiwrth eglwys Rhufain, a gosodent grefydd ar ei sylfaen apostolaidd gyntefig," (Book of the Denommations, p. 563). Yn y nawfed ganrif, gwrthododd HinchmaruSj esgob Landan