Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

336 YR HAUL. 43. Nudd Sant o Gor Ylltyd a Brenin a wnaeth Llysfronydd. 44. Owain ab Morgan hen a wnaeth Ystrad Ywain. 45. Maenarch Iarll Henffordd a wnaeth Gelli Gaer. 46. Caerllion ar Wysg Cystenin Fawr a Maxen Wledig. 47. Aberavon Morgan ab Iestyn. 48. Maesaleg, Arthur, a gwedy hyny Ifor ab Llewelyn. 49. Llanfihangel Fedwy Cydwaladr. 50. Machen Ynyr Gwent. 51. Bedwas, Tewdric ab Teithfalch. 52. Llandw, Tewdric ab Teithfalch. 53. Llangana, Cana Santes ael Tewdwr Llydaw. 54. Cerrig Hywel, Hywel ab Owain ab Morgan Hen. 55. Gwenfro Brychan Sant. 56. Llanfair Misgyn, Meiryg ab Tewdrig. 57. Cynwyd Sant, a wnaeth Langynwyd. 58. Llandyfodwg ag Ystrad-dyfodwg, Dyfodwg. 59. Sant o Gôr Illtyd. 60. Llanfeithyn, Cadwg ab Gwynlliw. 61. Llangadell, Gadell Sant o Gôr Cadoc. 62. Lleirwg Sant o Gôr Gaerllion ar Wysg a wnaeth Llanleirwg —Lleurfawr, medd eraill. 63. Llanarvan, Aran Sant. 64. Llanarai Garai Sant o Gôr Bangor. 65. Y Pil William Iarll Caerloyw. 66. Llanfanedlan. Yr un William Iarll Caerloyw. NODION EGLWYSIG T Y DDEWI. Penodiadau. EVANS, Parch. D. D., ficer Llandy- friog : Ficer Llangwnwr. Nodd- wr, yr Esgob. Griffiths, Parch. James,ficerLlanguicke; Canon Mygedol Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi. Williams, Parch. Ganon W., B.D., ficer Ty Ddewi : Ficer Jeffreyston, Sir Benfro. Noddwyr, Y Deon a Glwysgor Ty Ddewi. URDDIADAU. (Gan Esgob Bangor, drwy Lythyrau oddi wrth Esgob Ty Ddewi). DlACONIAID. Tones, John Jenlcin, Prifysgol Durham. Davies, Llewellyn, B.A., Coleg Dewi Sant; Coleg yr lesu, Rhydychain, a Choleg St. Mihangel, Aberdar. Offeiriaid. Jones, Evan Lewis, M.A., Coleg yr Iesu, Caergrawnt. Marwolaeth. — Boreu dydd Iau, Mehefin 4ydd, bu farw y Parch. J. E. Jenlcins (Creidiol), rheithor y Vaynor, Merthyr Tydfil, yn ,65 mlwydd oed. Urddwyd ef, yn 1872, i guradiaeth Llan- edi, Sir Gaerfyrddin, a bu, yn ddilynol, yn gurad yn Cwmdu a Chefncoed-Cymer. Tra yno, bu ei Reithor farw, a phenod- wyd ef yn Rheithor Vaynor a'r Cefh, gan yr Arglwydd Gahghellydd. Claddwyd ef y dydd Mawrth canlynol. Llangei.er.— Y mae Eglwys newydd, St. Iago, wedi cael ei chodi yn y plwyf hwn. Costiodd tua 40op., a chynllun- iwyd hi gan Mr. Thomas Williams, Oak- land, Drefach. Y saer maen oedd Mr. S. Jones, Lamb Inn, Llangeler; a'r saer coed, Mr. E. Thomas, Towyn. Agorwyd hi ddydd Mawrth, Mehefin 9fed. Dech- reuwyd y gwasanaethau y nos o'r blaen, yn Eglwys y Plwyf, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Ganon Williams, Ty Ddewi, ac A. Britten, Gorslas. Nid oedd yr eglwys newydd yn ddigon helaeth i gynwys y dorf a ddaeth yn nghyd, ac felly cynhaliwyd y gwasanaethau tu allan, yn yr awyr agored. Pregethwyd, y boreu a'r hwyr, gan y ddau a enwyd uchod, ac yn y prydnawn, gan ein Hesgob. Yn y pryd- nawn, pregethwyd lu fewn i'reglwys, gan y Canon, a thu allan gan yr Esgob, ar yr un pryd ! Llandyssul.— Gosodwyd y ficer ne- wydd, y Parch. J. R. Jones, B.A., mewn meddiant o'r fywoliae^h ddycd Iau, Mehe- fin ueg, gan yr Archddiacon Williams, Aberteifi.