Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DIRWESTYDD DEHETJOL. "Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ae yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant."—Solomon. Rhif. 7.] MAWRTH, 1841. [Pris 1g. AT GYFAILL HEB AltDYSTIO. " Gair a ddyweder mewn amser, sydd rnegys afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig."—Solomon. , Gyfaill Hoff,—Gan f'od haint echryslawn meddwdod, cyf'edclach, adiota, wedi cyd-daenu trwy holl wersyll Brydain, a bod eneidiau anfàrwol mewn tragywyddol berygl o'i herwydd, y mae y niater yn rhy sobr i gellwair yn ei gylch yn hwy; gan hyny, frawd, gad i ni siarad yn sobr—na ddigiaam fy mod yn gofyn. A wyt ti yn meddwl dy fod yn gwneycl dy ddyledswydd wrth bleidio'r fasnach feddwol ? Cofìa fod dy dyst yn yr uchelder. A wyt ti yn sicr i ti wneyd yr hyn a allet, er dychwelyd dy gymmydog meddw oddiwrth y pethau sydd yn dinystrio ei gysur ef a'i deulu, ac ya debyg o'i arwain i'r llỳn sydd yn llosgi gan dân a brwmstan ? Os dywedi, ni wn i hyn, "Onid yw Chwiliwr y calonau yn gwy- bod?" A oes genyt gydwybod dirwystr gerbron Duw a dynion, dy fod wedi gwneuthur a eìlit er attal y meddwon a achubwyd'unwaith o grafanc y llew gwirfawl, rhag ail syrthio yn ysglyfaeth i'w ddannedd ? Gwyddost fod Uuaws oedd yn waeth eu drych nà moch y Gadareniaid, trwy lwyr-ymwrthod, wedi dyfod i'w hiawn bwyll. Gwyddost hefyd fod rhai o honynt wedi ail, gyf'eillachu â gwlybyroedd y felldith, nes dychwelyd f'el yr hŵch i'w hymdreiglf'a yn y dom, nes gor- lenwi eu hunain ag anghysur fel o"r blaen, difa eu bywyd gyda phuteiniaid felo'r biaen. Cyfaddefi y buasai eu moesau yn rhagorach, a'u cysur yn fwy pe parhaent i ymwrthod â'r pethau y dadleu drostynt. Gwyddost fod Blach ltobin (f'el y gelwi ef) tra y parhaodd yn ddirwestwr fel yr eira yn Sal- mon tnewn cymhariaeth i'r hyn yw yn awr, a Ilawer gydag ef. Ond y gofyniad yw, A wnaethost ti yr hyn a allaset er eu cadw yn sobr ? Ai nid yw dy dafod yr hwn sydd bin ysgrif- enydd buan wrth barablu Sul, gwyl, a gwaith o blaid y dyf-