Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DIRWESTYDD DEHEUOL. ^'Hir-hoedlsydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant."—Solomon. Rhif. 11.] GORPHENAF, 1841. [Pris 1g. BARNU DIRWEST WRTH EI HEFFEITHIAU. Ni chafodd un achos da erioed ar ei sefydliad yn ein byd llygredig ni, y gymmeradwyaeth a haedcìai, na'i bleidwyr y cefnogiad a deilyngent, mw.y nag un achos annheilwng, y gwrthwynebiad cyffredinol ddylid roddi iddo. Felly, nid yw cymineradwyaeth. nac anghymmeradwyaeth ddynol yn un prawf o deilyngdod neu annheilyngdod unrhyw sefydìiad. Y mae cefnogwyr Mahometaniaeth yn fyrddiynau, a gwrth- wynebwyr Cristionogaeth yn lliosog, ond nid yw hyn dditn prawf o wirionedd y blaenaf, nac ychwaith yn euog-ìarnu yr olaf. Y mae ymofynwyr am y gwirionedd yn treiddio yn mhellach nâ hyn yna; y maent yn edrych i gymrneriadau ei phleidwyr yn gystal â'i gwrthwynebwyr; yr egwyddorion oddiar ba rai y gweithredant, y dyben yr amcanant gyrhaedd, ac arweiniad sicr ac uniongyrchol eu ffordd tuag ato; ed- rychant i gymmeriadau ei phleidwyr, er canfod ai nid hynodi eu hunain, ychwanegu eu dylanwad, anfarwoli eu henwau, yn lle gwir gariad at lesâd dynolryw, fyddant ysgogyddion eu hymdrechion a'u cynhyrfìadau ; i ymddygiadau ei gwrthwy- nebwyr, er gweìed ai nid hunan-elw, hunan-les, neu hunan- flys, yn lle eu barn bwyllog a diduedd o'r dueddiad dinystriol i wir gysur dynolryw, fyddant yn cynhyrfu eu gwrthfrydedd hwytham Wrth y profion yma, yn nghyd âmanol ystyriaeth o'r rhesymau a ddygir o'i du ac yn ei erbyn, y mae i ni farnu unrhy w achos ar ei gychwyniad. Ond cyn hir daw y gofyn- iacl cywir a phenclerfynol hwnw yn naturiol, Pa ddaioni y mae toedi wneyd'f Atebiad cywir a chadarnhaol i hwn sydd yn profì yn anamheuadwy eglur i bawb, gymmeriad unrhyw achos ynddo ei hun, os bydd wedi derbyn y manteision cyn- northwyol gofynol i'w lwyddiant. Nid ydym yn ofni na (ond yn hyf gredu) ddal Dirwest ei