Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR t§ì}íc§gxavon fg§xvaxtexot CYLCHDÄITH t LLMRHÄISDR. CYF. X., RHIF 4. CDai, füehefin a Gofphenaf, 1902. >ooocr3oooaoo»cz>o»«c3ooocz>oo»czj4oocz)«»«t Trem ar Hanes Wesleyaeth yn Nghroesoswallt. GAN MR. SAMUEL DAYIES. Parhad tudal. 41. iì.ç/R ol penderfynu cael Capel, y peth mawr oedd yn pwyso lA'- ar feddyliau y frawdoliaeth oedd, pa le i gael tir i adeiladu k1S\ Capel arno, ac mae y gwaith yma yn cael ei ymddiried i John Hughes, ac yn y man mae'r tir yn cael ei sicrhau, y Trust yn cael ei ffurfio, ond yr anhawsder mawr oedd cael digon o Trustees. Bu raid myned i wahanol fanau yn y Gylchdaith er mwyn eu sicrhau. Nis gallaf ddyweyd pwy oeddynt, ond yr wyf yn sicr fod Meistri Edward Davies a John Hughes yn gwneyd dau o honynt. Mae y deeds yn awr yn cael eu tynu allan yn offlce Mr. Minshall, a'r gwaith 0 adeiladu y Capel Newydd yn cael ei ymddiried i Mr. John Hughes. Gallwn dybio mai tua diwedd y flwyddyn : 855. Mae y tŷ newydd yn dechreu cael ei adeiladu, ond rhaid i ni eto gyfeirio eich meddyliau yn ol i'r hen room, canys yma mae yr Eglwys yn cartrefu i aros hyd nes y bydd y tŷ newydd yn barod iddynt i fyned iddo. Er mor annymunol yr olwg arni oedd yr hen room, yn ol pob hanes fe gafodd y saint amser bendigedig iawn yno; canys clywais rai o'r hen deulu yn dyweyd ar ol symud i'r Capel Newydd, " Oh ! yr oedd hi yn llawer mwy cynhes, mwy brawdol, ac yr oeddem yn agos i'n gilydd," meddent, "nag yma." Braidd nad oedd- ent hwy fel plant Israeì yn barod i rwgnach, ac i ddyweyd y buasai yn well ganddynt aros yn y caethiwed, yn yr hen room, na d'od i'r Capel Newydd i oeri a marw. Dylaswn grybwyll am un ferch ifanc ag oedd yn bur amlwg a gwasanaethgar yn yr hen room gyda y canu, sef un o'r enw Mary Hughes, wedi hyny Mrs. John Jones, Gate Street. Ffrind neillduol oedd hon i Ann Evans, yn awr gyda ni, sef Mrs. Thomas Jones. Yr oedd y