Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HYSBYSYDD: gçCcÇgranm §§tx>ctvtexol CYLCHDÄITH t LLÄNRHÄIÄDR. CYF. XV., RHIF 2. Choaefpot», macapth ae Ebtfill, 1907. TREM AR HANES WESLEYAETH GYMREIG YN NGHROESOSWALLT. (Parhad o tu dal. z, Rhif. i.) >î Gan Mr. Samuel Davies, Glasfryn. N y flwyddyn 1874 a '75, mae y teimlad yn nghylch cael fyJ7 capel newydd wedi d'od yn lled gryf yn mysg rhai o'r cyfeillion, a rhaid i ni ddweyd nad oedd yr hen gapel er mor ddymunol ydoedd i addoli ynddo, ddim y íle mwyaf man- teisiol i gael cynulleidfa. Modd bynag, fe lanwyd yr hen gapel, a meddyliwyd ei bod yn llawn bryd i gael capel helaethach, ac os yn bosibl mewn lle mwy cyfleus a respec/aòle, ond nid oedd pawb o'r un feddwl yn hyn chwaith. Nid oedd ein hen gyfaill, Mr. Edward Davies, ar y cyntaf yn cyd-weled, nac yn cydymdeimlo o gwbl â'r rhai oedd yn aflonyddu yn y cyfeiriad hwnw; yr oedd ganddo ef blan yn ei feddwl i gael rhagor o dir ac helaethu yr hen gapel, gan ddweyd y gallesid ei wneyd yn gapel rhagorol ar ychydig o gost, pryd y buasai capel newydd yn costio canoedd lawer, ac o ba le yr oeddynt i gael yr arian. Gwyddom yn dda mae dyn pwyllog a gochelgar oedd Mr. Davies yn ei holl symud- iadau; ac er ein bod yn wastad yn rhoi pwys a gwerth ar ei farn a'i ddoethineb, eto mae yn debyg na fuasai yntau ddim yn cael cydweithrediad y frawdoliaeth y tro hwn i weithio allan y cynllun ac oedd ganddo mewn bwriad, oblegid capel newydd oedd ar y bobl eisiau, a dim byd Uai. Cyndyn iawn y bu ef, a gwrthwyn- ebus am amser, fel yr oeddem bron ofn son gair wrtho am gapel newydd; ac eto nid oedd neb o honom am syoiud gam yn mlaen heb gydsyniad a chydweithrediad un ac oedd wedi bod yn gefn i'r achos ar hyd y blynyddau; ond ofnwyd yn fawr y buasai yn rhaid mentro yn mlaen heb ei gynorthwy. Ond yn ffortunus fe drodd y rhod. Yr wyf yn cofio yn dda myned i lawr i'w dỳ un prydnawn Sabboth gyda yr amcan o introducio mater y capel newydd, er yn ofni gwneyd hyny. Beth bynag, mi fentrais, doed a ddelo. Dywedais mai am gapel newydd yr oedd y cyfeillion.