Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

teysorfa'b adeoddwr. 133 Y FLWYDDYN YN MARW. ^T E wely brau ameer rhwng dau dragwyddoldeb J*\ Yn nhagfa marwolaeth y flwyddyn y sydd ; Chwim fysedd yr awrlais sy'n datod ei hundeb Daearol er gollwng ei hysbryd yn rhydd ; Wrth erchwyn ei gwely—yr angel cofnodol Sy'n aros ei holaf eiliadau i ben ; Mae hanes pob mynyd o'i hoes ganddo'n gyfrol, " Tic " olaf y Deuddeg rydd iddi'n Amen. Mae'r flwyddyn yn marw—fel gweddw oedranus Brudd, unig, a thlawd, heb un dant yn ei phen, Na neb i'w chysuro ond awel gwynfanus, Ac ambeU i seren ar lasfron y nen ; Ei thegwch a gollodd wrth esgor cynhauaf Toreithiog i fyd anniolchgar a blin, Mae'n marw wrth weled ei phlentyn ieuengaf * Tn marw'n noethlymyn a rhew ar ei fin. Yr adar fu unwaith yn coglais ei chlustiau Pan welsant hi'n nychu a aetbant yn fud, A'r blodau pan welsant liw'r bedd ar ei gruddiau Dorasant eu calon mewn g< fid i gyd; Hebryntiodd filiynau 'r hyd glyn cysgod angau, A chuddiodd heb ddeigryn eu beddau bob un, Ond weithion, dros ddibyn gobphekol mae hithau I fedd ei chwiorydd yn disgjn ei hun. Ust! clyw—dyna Ddeuddeg! bu farw y Flwyddyn, Ond cofia, fy enaid, mai marw ifyw ; Ei rhoddion—ddibrisiaist—yn dystion i'th erb)n A gyfyd i'th wyneb ddydd Brawdle dy Dduw ; îy JS'uw, 'rwyf yn }mbil uwch bedd yr hen flwyddyn, Er mwyn dy ogoniant ac ingoedd y groes, Diiea bob camwedd a wnes yn dy erbyn,— Sych ymaith ífaeleddau blynyddoedd fy oes. Treboeth. G-wteosì dd. * Bhagfyr.