Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

tbysorfa'h adroddwr. 39 Y GWANWYN. fÂl ! WANWYN gwyryfol, mor deg yw dy wawr, liJ Nid tecach oedd Eden, pan decaf ei nawr ; Mae argraff dwyfoldeb yn ffres ar dy wedd, Fel ol llaw y wyryf ar weryd y bedd ; Ymwisgi fel t'wysog, mewn porphor a gwyrdd, A'th goron o flodau'n arwyddlun o'th urdd, Tra chân a llawenydd o amgylch dy fFyrdd. Esgyni'n fflam bur o'r Deheufyd i'r lan, A'th dêr ysbrydoliaeth yn treiddio pob man, Ah ! pan y dechreui roi'th droed ar y Uawr, A thyner anadlu 'n awelon y wawr, Ac hongian dy emau ar ganghau y gwydd, A deffro'r beroriaeth ar doriad y dydd, Pob calon wregysir gan gariad a fFydd. 0 ! wanwyn îr, cylchdeithio 'r wyt o hyd, A'th wyrthiol law yn adnewyddu'r byd, Tragwyddol i'enctid sy'n dy natur lân ; A'r syniad pur yn llosgi ynwy'n dân— Y syniad am y bywyd dwyfol, hardd, Sy'n chwareu fyth o flaen darfelydd bardd, A throi ei ben yn reddfol tua'r nef, 1 edrych am ei sylweddoliad ef ; 'Rwyf yn ei wel'd yn awr o'm blaen, yn mhell, A'i drem yn llawn o ryw f wynderau gwell, Na dim sy'n dod ar draws ein daear ni, Oddieithr pan y delo gyda thi; Mae'th awel di fel anadl angel pur, Yn dod o wlad lle nad oes poen na chuç, Yn ei sisialon hi mae'r tyner hedd, Sy'n trigo fyth yr ochr draw i'r bedd; Ei hwyrol lais sy'n disgyn ar fy nghlyw, Mor fwyn—mor flydd, a llais trugaredd Duw ; 0 ! Zephyr fwyn, rho'th gusan ar fy ngrudd, Ac oriau maith yn siarad yno bydd, D'wed wrthyf am ddedwyddwch, hoen, a bri, 'Rysbrydol wlad, lle mae dy gartref di.