Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

trysoepa'b adroddwr, 130 Y RHEDEGFEYDD PRESENOL. (Seiliedig ar 2 Bren. ii. 23, 24). Cymeriadau.—Franh, Ârthur, William Williams, Tom. ITRANE.—Wel, William Williams, mae gwahaniaeth dy- â munol rhwng eich gwaith yn tori ceryg fel hyn, a'ch gwaith yn gorfoleddu a dawnsio yn Nghymanfa'r Sir y dydd o'r blaen. Ai gwir yw y stori, William, eich bod yn y Gy- manfa ? Ac ai gwir eich bod yn cael hwyl wrth wrando ar un o wŷr y neisiedi gwynion yn sôn am Eliseus yn lladd plant Bethel? Arthür.—William Williams yn y Gymanfa ! Oedd bid sicr; ond pwy a'i gwelodd erioed mewn Cymanfa o redeg- feydd ? ac " yn bloeddio !" Siwr iawn; ond pwy a glywodd ei lef erioed yn y rustic sports ì William Williams.—Ah ! Cymanfa y rhedegfeydd ai ê ? Cwrdd biynyddol y rustic sports yn wir ! Mor debyg ydyw y byd i'r eglwys, gan ei fod yntau a'i gymanfaoedd, a'i gy- farfodydd misol, a'i hysbysleni; ond fod gwahaniaeth ofn- adwy rhwng cwrdd misol i gamblo a chwrdd misol i weddio! Ac yr ydyeh yn synu, mechgyu i, na buaswn i yn do'd i'r cyfarfodydd hyn ? Beth a wna hen ŵr fel fi, wrth ei gynal- fíon, â chyfaríodydd i redeg? Ond dyna, mae arnaf ofn, mechgyn i, fod mwy o dalent yn nhraed a choesau yr oes hon nag sydd yn ei phen a'i chalon. A ydyw ei synwyr yn tyfu tuag i lawr wys ? Tom.—Beth mae torwr ceryg fel chwi yn sôn am dalent? Credaf y buasai yn fwy o dalent ynoch chwi i orfoleddu wrth ddryllio y ceryg hyn, nag i orfoleddu wrth wrando'r hanes am y pregethwr hwnw, a elwid Eliseus, yn ei lid u i ddig yn " dryllio " piant Bethel. W.W.—Ië siwr, mewn hinsoddau twym y ceir nadroedd ruawr. B'le cefaist ti y colyn yna, machgen i ? Ai ar ael- wyd grefyddol dy dad ? Ai gweddiau dy fam a'th ddysgodd i bigo a brathu ? A.—0, chwareu teg. At y pwnc, William. B'le saif dieuogrwydd Eliseus, gan iddo ladd plant Bethel ? A'i fod yn filwr, gallaswn wreled ei hawL, ond gan mai mymryn o