Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

trysorfa'r adroddwr. 199 BUDDUGOLIAETfl PEN CARMEL. f|ì î GARMEL enwog, heddyw ar dy dir, ÜJ Cyhoeddir rhyfel rhwng y gau a'r gwir; — Dydd gogoneddu Duw—dydd ei fawrhau, A dydd gwarthnodi ffiaidd dduwiau gau. Ar graig gwirionedd saif Elias wrol, A'i hyder cryf fel tarian amddifiynol; Zêl ei eiddigedd dros ogoniant Duw A ysa yn ei fron fel marwor byw. I hèr Elias cydymfFurfiad roed, Mae'r bustach offrwm ar yr allor goed ; Yn rhwygo'r awyr mae bloeddiadau'r gelyn Hyd haner dydd—ond nid yw'r tân yn disgyn. Elias, weithian, â chellweirus drem,— A gwawd-watwareg fel brath picell lem,— Gyfarcha'r Baal brophwydi,—" Pa'm mae'ch duw Mor fyddar glust i'ch deisyfiadau by w ? Ymddiddan, neu ymdeithio mae o dref, Neu cysgu mae yn drwm ! dihunwch ef ; Gwaeddwch yn uwch! yn uwch ! ac unol lais, Ni ddichon duw fel Baal nacâu eich cais!" Ond nid oedd llef yn ateb eu gweddiau, Ond adsain wawdlyd o gilfachau'r creigiau; Er gwaeddi! " Tori eu hunain ag ellynod," Diystyr ydyw Baal,—maë'r tân heb ddyfod. Mae'r allor sanctaidd wedi ei hadgyweirio, A'r dwfr-ffos o'i hamgylch wedi ei chloddio ; Mae'r bustach ar y coed yn ddarnau mân, Ond a ateba Duw ? A ddaw y tân ? Tra'n dàl ei hanadl mae y dorf gan fraw, Elias fel âg anweledig law, Oddiar fwa ffydd ollyngodd weddi saeth, Ac ar ei hunion tua'r nef yr aeth,— " 0! Arglwydd Dduw fy nhadau, gwrando, clyw, Gwybydder heddyw mai tydi sydd Dduw."