Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

trysorfa'b adroddwr. 231 MERTHYRDOD STEPHAN. j|1 FLAEN y llys y gwysiwyd Stephan wrol, HJ Traddodi mae ei arawd amddifFynol; Tywyna harddwch a sancteiddrwydd angel Fel cysgod Duwdod ar ei wyneb tawel; Ei araeth mcgys mangell o reffynau A rwygodd gwysi yn eu cydwybodau. Y ffordd o ymresymu gan anu'iredd Yw gwawdio, " ffromi," " ysgyrnygu dannedd ;" Pa ragfarn sydd mor greulawn—mor uffernol A rhagfarn rhagrith diafliaid ffug-sancteiddiol ? Apelio at " lys uwch " yn awr mae ef, " Yn ddyfal a edrychodd tua'r nef;" Ei ffydd lygeidiog hwnt i flin ddaiarol A genfydd olygfeydd y byd ysbrydol; Gwawl lwybr rhyngddo sydd a'r orsedd wen, Yniegyr porth y nefoedd led y pen; Gwel engyl fyrdd, gogoniant y Jehofah,— Tanbeidiach fìl na'r Dwyfol gynt Shecinah ; Ac ar ddeheulaw'r Tad y Ceidwad pur Ag ol y "bicell fain " a'r " hoelion dur." í'r da, mcwn adfyd, yn mhob oes ddilynol, Dadlena'r nef ei golygfeydd ysbrydol. Mae Stephan dduwiol wedi ei gollfarnu, Ac holl gythreuliaid uffern yn crechwenu ! Tn unfryd, wele'r felldigedig giwaid Yn rhuthro arno megys haid o fleiddiaid ; Ei gabledd a haloga y Gynghorfa ! Mae cyfraith Moses dan ei draed yn sathrfa ! Mae Stephan wedi cael ei fwrw allan Drwy byrth y ddinas fel ysgymun aflan ; Mae'r ffyrnig dorf ýn hwtio, cablu, gwawdio; O ! dacw'r gareg gyntaf yn ci daro ! Yr anudonwyr fu yn c;am-gyhuddo, Eu gwisgoedd a ddiosgant i'w labyddio. 0 Saulì Ai nid oes uffern yn dy ddwyfron, A'th ddwylaw'n llosgi wrth ddal dillad y Uofruddion ? ii