Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

trysorfa'r adroddwr. 105 YMNEILLDUWYR DURA, NEU Y TRI LLANC. Cymeriadau :—Sadrach, Mesach, Abednego, Brenin, Tyiuysog, Rhaglaio, Duc, Llywodraethwr, Trethwr, Cyhoeddwr, Pendefig, Galdead, Babiloniad, Porthor, Daniel. fORTHOR.— (yn anerch Babiloniad.)—Pa beth, tybed, sydd yn myned yn mlaen yn y llys breninol heddyw ? Sicr yw fod rhywbeth neillduol bwysig ar gymeryd lle, o herwydd gwysiwyd yn nghyd yr holl dywysogion, duciaid, rhaglawiaid, llywodraethwyr, cyfieithwyr a phende- figion i wneuthur eu hymddangosiad yn frysiog o flaen y Brenin Nebuchodonosor. Beth sydd yn bod, tybed ? Rhaid fod rhywbeth pwysig ar gymeryd lle. Ni welais I erioed o'r blaen gymaint o frysio tua'r palas. Babiloniad.—Ar fy 11 w, nis gwn I beth all fod, ond gwelais inau luaws mawr o dywysogion a duciaid yn gyru yno gyda buandra, ac arwyddion dwysder yn ymddangosiad yr oll o honynt. Anhawdd gwybod beth yw yr helynt. Hwyrach ei fod am fyned i ryfel, neu fod rhyfel wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn. Gwell peidio dychymygu dim; od oes rhywbeth pwysig i ddod o'r cyfarfyddiad, cawn wybod yn ddigon cynar. Ond credaf, fel tithau, mai cyfarfyddiad pwysig sydd yn y palas heddyw. Brbnin.—Gwrandewch arnaf, chwi dywysogion, duoiaid, pendefigion, rhaglawiaid, trysorwyr, cyfieithwyr, trethwyr, a holl lywodraethwyr fy nhalaethau. Hysbys yw i chwi, er ys tro bellach, mai fy mwriad ydoedd gosod i fyny ddelw fawreddog o aur ar wastadedd Dura, fel y gallech chwi, a holl ddeiliaid fy nheyrnas ei haddoli. Mae y ddelw, bellach, yn barod. Mae golwg ogoneddus arni, ac mae ei disgleirdeb yn ofnadwy. Bellach, rhaid yw ei chysegru fel prif wrth- rych addoliad fy mhobl, ac fel duw duwiau fy ngwlad eangfawr a di-ail. Tywysog.—0 ! frenin bydd fyw byth. Gwyddem yn dda am dy fwriad a mawrygem ef. Yr oedd fy nghalon yn hiraothu am weled dydd gorpheniad y ddelw, ac heddyw yr wyf yn llawenhau yn ei chwblhâd. 0 ! ie, dacw hi yn y fan draw. Mae golwg urddasol arni. Mae Uewyrch ei