Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA'R ÄDRODDWR. PUMED LLYFJt. GWERSI I'R ADRODDWR. YSTUMIAU. .JígÇMDDENGYS i mi y gellid gwneyd llawer iawn o well- VjÉ> iant yn yr adrodd a geir yn ein Heisteddfodau, drwy dalu ychydig fwy o sylw i ystumiau (gesturesj. Wrth hyn y golygwn y dull y byddo dyn yn dal ei hun gerbron eynull- eidfa, yn nghyd a phob ysgogiad o eiddo gwahanol ranau y corph ; neu mew» geiriau ereill, yr oll a wneir ganddo, gyda yr eithriad o waith y tafod, i gyfleu ei syniadau a'i deinilad- au i'w wrandawyr. Ymffrostia ambell feirniad, fo yn cyfrif ei hun yn gallach na'r cyffredin, nad yw ef yn credu dim mewn ystumiau ; ond dangosed ddyn fedr ddarllen, adrodd, neu areithio heb wneyd unrhyw fath o ystumiau, a byddwn yn barod iawn i dderbyu ei gredo. Y gwirionedd yw, fod pawb o honom yn gwneyd rhyw fath o ystumiau ; a chan eiu bod yn gwneyd rhyw fath, dylem geisio gwueyd y math mwyaf naturiol, priodol, ac effeithiol. Rhoddai yr hynafiaid bwys arbenig ar hyn. Dadleuai rhai eu bod yn fwy effeithiol na geiriau ; ac ymftrostiai Roscius, yr actor Rhufeinig, y niedrai ef gyfleu mwy o syniadau a chynyrchu mwy o deim- lad drwy ei ystumiau nag a fedrai Cicero drwy ei eiriau yn uiiig;. Dywedir hefyd fod Delsarte, y Ffrancwr enwog, yn medru trosglwyddo syniadau rhai daruau yn gywir, a