Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

trysorfa'r adroddwr. 41 GWERSI I'K ADRODDWR. gorpwysiadau rheithbgol. fHAG i'r adroddwyr deimlo ein bod yn fwy anniben na'r .__ cyffredin yn nhrefniad ein testynau, dichon mai gwell i ni ddyweyd ar unwaith ein bod am ddechreu gyda'r peth- au hyny y credwn eu bod hwy yn fwyaf diffygiol ynddynt. Mae yn bosibl nad yw pawb o'r rhai sydd yn mynych gys- tadlu yn ein Heisteddfodau wedi meddwl erioed fod ganddynt ddau ddosbarth o orphwysiadau i'w harfer. Ond felly y mae. Defnyddia yr awdwr un dosbarth o orphwys- iadau i gyfleu ei syniadau yn glir i'r darllenydd, a gelwir y rhai hyn yn orphwysiadau neu atalnodau gramadegol. Ond defnyddia pob adroddwr effeithiol ddosbarth arall a orphwysiadau i drosglwyddo syniadau yr awdwr i'r gynull- eidfa, y rhai a elwir jn orphivysiadau neu atalnodau rheith- egol. Mae y gair atalnodau yn ddigon priodol yn y cysylltiad blaenaf, ond nid yn hollol felly yn yr ail, oblegid nid oes yn y llyfr nodau o gwbl i gyfarwyddo yr adroddwr. Rhaid i'r rhai hyn fod yn ei ben ef ei hun ; a dyna ein rheswm dros ymwrthod â'r term cyffredin. Clywsom cyn hyn ambell gystadleuydd rhagorol yn cael ei ddwrdio yn arw, ac yn colli ei wobr hefyd, am " ei fod wedi gosod stops mewn manau nad oedd ei gopi yn dangos eu bod i fod ;" a braidd na theimlem ei fod yn resyn na buasai wedi gallu cael at ei wasanaeth rai o'r sillgollau oeddynt yn mhen ei feirniad enwog Ni welodd neb eto adroddwr na siaradwr o fri na byddai yn defnyddio llawer mwy o orphwysiadau nag a ddangosid yn ei lyfr. Edrychwn ar yr adnod gyntaf o'r Efengyl yn ol Luc :— " Yn gymaint a darfod i lawer gymeryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddiameu yn ein plith." Nid oes un gorphwysiad gramadegol o'i dechreu i'w diwedd, ac nid oes ei eisiau ychwaith ; ond pwy a fedr ei darllen yn y modd mwyaf naturiol iddo ei hun a deallus i ereill heb osod amryw o orphwysiadau rheithegol ynddi % Sylwn ar ddau beth :—