Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFAR ADR0DDWR. 105 GWERSI I'R ADRODDWR. AMRYWIO'r LLAI8. BAI cyffredin iawn niewn adroddwyr yw bod yn un-donog. Nid yr un dôn a arferir gan yr oll o honynt. Ceir rhai yn llafar-ganu, rhai yn siarad yn chwyddedig, rhai yn adrodd mor bruddglwyfus a phe ar fin eu bedd, a rhai yn arfer tôn nad oes unrhyw iaith a'i desgrifìa. Beth bynag fo natur y dôn, os deil o hyd yr un, bydd yn sicr o ferwino clust y gynulleidfa, ac o ddinystrio effaith yr hyn geisir osod allan. Gwna'r crwth a'r berdoneg yr un sain gerddorol,ond rhydd y naill a'r llall ei liw ei hun arni; felly mae llais pob dyn yn gwahaniaethu oddiwrth yr eiddo pob dyn arall. Gan nad faint efelycho ar eraill, ni lwydda i newid ei lais yn hollol. Honai Socrates y medrai adnabod cymeriad dyn wrth ei lais, a dywedai ryw dro wrth berson oedd yn ddieithr iddo, " Siaredwch, fel y gallwyf eich gweled chwi." Gellir ychw7anegu grym heb newid tôn y llais, a dyma'r unig am- rywiaeth a geir gan ambell adroddwr a siaradwr cyhoeddus. Ond rhaid cael mwy na hyu cyn gellir disgwyl bod yn llwyddianus. Gofyna gwrahanol ddarnau am newid y llais i gyfateb i'w natur, a gofynir amrywiaeth mawr wrth adrodd gwahanol ranau o'r un darn yn aml. Sonia areithwyr a cherddorion am lais pur a llais anmhur, ac y mae i'r naill fel y llall ei wasanaeth. Dosrenir y lleisiau pur i ddau fath. 1. Y Llais Pur Naturiol (Simple pure).—Dyma'r llais a arferir mewn ymddiddanion cyffredin, desgrifiadausyml, ac adroddiadau na byddo unrhyw gyffroad teimlad i'w arddangos ynddynt. Dylai pob problem o eiddo' Euclid gael ei hegluro a'r llais hwn, am nad oes ynddi ddim i'r teimlad—dim ond i'r deall yn unig. 2. Y Llawn-llafar (Orotund voice). —Mae hwn o ran ei ansawdd yr un mor bur a'r blaenaf, ac yn fwy llawn a son- iarus. Ychydig sydd yn ei feddu yn naturiol ; ond medd- ienir ef drwy ddiwylliad a siarad yn gyhoeddus. Medr gynyrchu cyfrol o sŵn i lanw adeilad eang yn gydmarol ddidaro. Gwasanaetha i osod allan yr aruchel a'r mawreddog, ac y mae yn hynod effeithiol. Rhaid ei gael cyn gwneyd cyfìawnder a rhai darnau o Shakespeare, megis Act V.,