Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

trysorfa'r adrodüwr. 169 GWERSI l'R ADRODDWR. ADRODD BARDDONIABTH. ¥N ein cyfarfodydd adloniadol a chystadleuol ceir yn y cyffredin fwy o farddoniaeth nag o ryddiaeth yn cael ei adrodd, ac y mae yn naturiol gofyn beth sydd yn cyfrif am hyn. A ywyn haws i adrodd barddouiaeth na rhyddiaith ? Cydnabyddwn ei fod yn hawddach i'w ddysgu, ac i'w gadw yn y cof, ond y mae yn llawer anhawddach i'w adrodd yn dda. Nid rhyw nifer luosog a feddwn yn Nghymru yn gampwyr ar adrodd barddoniaeth ; ceir lluaws o'r beirdd goreu yn mwrddro eu gwaith eu hunain wrth geisio ei adrodd; a phan ddarllenir y llyfrau a gyhoeddir ar areithyddiaeth, anaml y ceirynddynt wers ar y pwnc hwn Y canlyniad o hyn yw fod ein hadroddwyr yn rhedegyn barhaus i un o ddau eithafion. 1. Troi pob barddoniaeth yn rhyddiaith sych a diefaith. Yn ystod ein harosiad y tu arall i'r Werydd cawsom gyfie lawer tro i wrando yr Ianci yn darllen emynau ac yn ceisio adrodd rhai darnau gorchestol o eiddo y prif feirdd Seisnig; a'r argraft' adewid ar ein teimlad fynychaf oedd fod y farddoniaeth yn cael ei ddiosg yn lled lwyr o'i addurniadau a'i amddifadu o gryn lawer o'i effeithiolrwydd. Gwywai holl addurniadau yr awen dan ddylanwad ei areith- yddiaeth oeraidd a sychlyd fel blodau hâf dan anadi Iwyd- rewog hydref. Er nad yw eu nifer yn lluosog, cyfarfyddir â rhai dynion yn Nghymru hefyd yn tueddu i fyn'd i'r cyfeiriad hwn. Ond tuedd y rhan amlaf o honomyw troi i'reithafìon arall. 2. Gwneyd yr hyn a eilẅ y Sais yn sing-song. Ycyfieithiad rydd SilvanEvans o'r gair hwn yw "canudiflas"; a diflas iawnydyw yn disgyn fynyehaf ar glust cynulleidfa. Ond y mae gan y plentyn ar sêt fawr y capel, yr offeiriad yn ei eglwys, y pregethwr yn ei bwlpud, a'r adroddwr ar ei esgynlawr ei dôn arbenig ei hun ; ac unwaith ÿ dysger ei nodau ar y ddwy linell gyntaf, gellir bod yn ddiogeloddiyn') i'r diwedd, oblegid nid oes dim perygl i'r nodau gael nemawr o'u newid. Dylai yr adroddwr ymdrechu cadw ei hun yn y canol rhwng y 'ddau eithafion hyn. Cofied mai nid gwirionedd yn cael ei gyfiwyno yn noethlymun yw barddoniaeth ; ond