Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GOLYGYDD Rhif. 8.] AWST, 1846. [Pius 2c. ATHRAWIAETIIAU, &c. DYSGEIDIAETH YN NGHYMRU. Pan gododd glowyr a mwynwyr Rhuabon, oddeutu dwsin o flyn- yddau yn ol; pan welwyd yr un peth yn Morganwg a Mynwy gyda Siartîaeth; pan gynhyrfwyd rhanau gorllewinol deheubarth Cymru gau Rebecca a'i phlant;—clywid y Saeson yn Llundain, yn Nghymru, yn y Senedd-dai, yn Excter Hall, yn mhob man; 'íe, nc aml frawd i Dic Shon Dafydd gyda hwy, yn lledu eu penau a'u llygaid gan syndod uwchben mawr anwybodaeth y Cymry. Daliwyd at yr un gogan mor barhaus, ac mor gyffredinol, nes yr aeth y byd darllengar, o'r bron i gyd, i gredu mai felly y mae, a bod preswylwyr Cymru mor wylltion ac anwaraidd â'i mynyddau. Ond y mae un bachgen a fagwyd yn ein mysg, un ag sydd â'i galon mor ffyddlou i'w wlad ag yw ei enw o an- rhydedd iddi, y Parch. Henry Richardi, yn awr o Lundain; y mae efe, meddwn, wedi meiddio allan â'r gwirionedd, nad yw brodorion Gwalia islaw yr eicldo un wladarall mmon diwylliaeth meddwl. Hawyr! chwardd hoü seneddwyr Prydain, a Mr. Williams o Ci>ventry yn eu mysg, n, mawr os na chlywir ofFeiriadon y wlad yn cydeilio eu gwawd â'r eiddynt. Ond gwir yw pob gair o dystiolaeth amddiffynol Mr. Ricli- ards, er hyny. Dacw un arallo fechgyn enwocaf ei wlad; gwrieuanc na íuasai raid i Lundain ein cymydogion gywilydd o sefylí yn enedi»;drcf iddo, wedi cyfodi ar ei draed, ac a'i fraich i'r lan, yn y Dyngedydd di- weddaf, yn tystio gyda'i frawd o Dregaron, dros uniondeb ei wiad. Ni i-aid i ni ond cyfeirio ein darllenwyr at ysgrif Mr. John Roberts o Lanbrynmair yno, ac at araeth Mr. Richards yn y Patriot, am brawf o'r hyn a ddywedasom. Ond odid na oddefir i un eto o fechgyn Gwalia, er y gwaelaf, fwrw ei dystiolaeth i'r glorian, yn y pen o honi sy'n sefyll mcwn mawr eisiau ffeithiau ar y pwnc. Er nad ydym yn hòni y sylw craff a'r drem philo- sophaidd uwchben sefyllfa gwlad tra ynddi, ag a ellir hòni dros yr en- wogion a nodwyd, gallwn ddywedyd ein bod wedi cael mantais i dystio cymaint ag a ganlyn. I. Gwyhodaeth gelfyddydol. k\ Saeson yw gofitiid, saeri coed, cert- seiri, maen-seiri, maen-naddwyr, ac adeiladwyr Cymru ? Onid Cymry yw prif ddwylaw y rheilffyrdd sy'n awr yn cael eu parotoi ar hyd y dy- wysogaeth ? Nid y'm yn cyfeirio at y stewardiaeth; swydd o barti'aeth ;yw hòno ; ond at y gorchwylion pwysicaf, ac anhawddaf. Deucd y ^ais yuilft-üstgar gyda ni i Foundfics Gpglcdd Cymru, i Fawcctt's