Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

¥ G 0 l- Y 6 Y Y TADAU CREDOAWL. Rhif. II. Hippolytius, cyfoeswr ag Origen, nid oedd ddim ond dilynydd a dysgybl iddo. Yniddengys fod ei ddull o esbonio yn dra ale- gorawl. Yn hanes Isaatì a Jacob, efe a esyd Isaac i sefyll am Dduw—Rebecca, am yr Ysbryd Glân—Esau, am y genedl Iudd- ewig—a Jacob, am Grist. Oedran mawr Isaac a arddengys gyf- lawnder yr amser; ei ddallineb, dywyllwch ysbrydol. Y ddauoen gafr a ddygid gan Jacob allan o'r praidd, ydynt bechodau dewis- edig allan o rai yr Iuddewon a'r Cenedloedd; a'r yraborth a wnaed o honynt, a arddengys aberthau boddlonawl gan Dduw. Eto, gwraig Esau oedd ifydd yr íuddewon, a'u llyfrau cysegredig; tra yr arddengys y crwyn a osodwyd ar ddwylaw Jacob, bechodau dynion, ag a rwymwyd wrth y groes, fel dwylaw Crist, &c. Athanasius, a fu'n blodeuo oddeutu 372, O. C. Yr oedd efe yn rhyddach oddiwrth yr alegoriaw na'r tadau a nodwyd, er ei fod ar brydiau hcfyd yn llithro i'r un pwll a hwythau. Ar Mafc 5, 29, dywedmai yr eglwys yw y coríf; yr esgobion a'r diaconiaid yw y Uygaid a'r dwylaw a ddylid dori ymaith, os cyflawnant unrhyw ddrwg ag fo'n niweidiol i'r eglwys. Prif gors yr awdwr yma oedd ffurfio credo yn gyntaf, ac yna ei chcfnogi allan o'r ysgrythyrau ; yn Ue cymeryd yr ysgrythyrau yn gyntaf, ac allan o honynt ffurfio ei gredo yn ail. Ephraim y Syriad, ydoedd yr enwocaf o dadau yr eglwys Syr- iaidd. Ganwyd yn Nisibis, a chladdwyd yn Edessa, 0. C. 378. Alegoraidd iawn yw yntau yn ei esboniadau, canys sonia am am- rywiol ffyrdd o dynu allan ddeongliadau ysbrydol o'r beibl. Chrysostom, yn 407, 0. C, ydoedd led rydd oddiwrth yr ale- gori; eto, csboniwr diwerth ydoedd, yn ymyl y rhai diweddarach. "Nid ocs dim yn yr ysgrythyrau dwyfol (ebe efe) wedi ei osod heb achos: mae o fewn hyd yn nod y geiriau a ymddangosantyn Ueiaf