Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y "PLENTYN NEFOL." Creadur fach ysbrydlawn oeddit ti—rhy ysbrydlawn i bir aroa is y sêr—oeddit ti—dy gyfodiad a'th fachludiad—serenawl y ddau —a oleuasant ar unwaitb dy holì ddyffryn genedigol, ac a'i gadaw- sant ar unwaith mcwn tywyllwch. Mae dy enw wedi aros ar ein calonau—ac yno caffed aros yn ddihelbul a distaw—megys, pan led freuddwydiom ein ffordd drwyryw goedwig unigol, y bendith- iwn heb ei enwi degwcb rhyw beraidd flodeuyn, yr hwn a brudd- wcna arnom allan o'r eira gwyn ac oer a'i hamgylcha. Dirwyna y Sid hwnw ar y flwyddyn, ar ba un y'th welsom yn cael dy fedyddio. Yn mysg bryniau Cymru hoff yr ydoedd Yna rhed mynydau rhyw anwyl un-mlynedd-ar-ddeg, y rhai nid oedd- ynt i ti, yn eu holl amrywiaeth, ond fel un tymhor ysbrydlawn o led-nef haf—un bywyd bendigedig—ac, o'r diwedd, gwelsom y dydd Llun trwm hwnw—nefol hynod i ti—pan y'th osodasom yn dy wely pridd, i'th ddeffroi gan foneddwr o'r wlad lle mae dy ysbryd wedi glanio i'n haros. Mor ryfedd yw dy ffyrdd a'th weithrédiadau, O raslawn natur- iaeth ! Tydi, yr hon nid wyt ond enw a osodir genym ar y Bod, ya yr Hwn y mae pob peth yn bodoli. Cyn ei bod yn dairblwydd oed, aethai yr hon ag y mae ei delw wedi tyner aros ar ein calon, yn anwylyd yr holl aelwyd, o dymher a digrifwch. Dywedai yr hen bobl a ddalient bwnc y llygredd gwreiddiol, y rhaid fod, naill ai eithriad wedi ei wneyd â'i pherson hi, ai ynte ei Hiachawdwr wedi ei phuro oddiwrtho yn ei mabandod. Felly y braidd gredai rhai hen dduwiolion, wrth ei chanfod mor annhebyg i blant ereill, yn nhawelwch, a phryd arall yn mywiogrwydd, y wen a wisgai ei gwedd, ac a barai i ryw bethau fel gwreichion ysbrydol ddawnsio yn ei llygaid; a hyny ar oedran pan na ddarllenir nemawr arwydd o rcswm yn llygaid plant ereill, a phan yr ymddengys eu llygaid hwynt yn ddedwydd ond fel y blodau difeddwl o gylch eu traed, Mor annhebyg i blant ereill—ond annhebyg yn unig ain iddi y»