Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TYWYSYDD YR IEÜAINC. Rhif. 15. MAWRTH, 1848. Cyf. II. ANFOESGAEWCH YN NHY DDUW. Mr. Gol.,—Tybiaf mai un o brif ddybenioncyhoedd- iad o fath y Tywysydd yw moesoli a diwygio ei ddar- llenwyr ; ac oddiar yr ystyriaeth hon yr wyf yn anfon i chwi yr ychydig linellau canlynol, gan obeithio yr atebant' y cyi'ryw ddyben. Yn mysg yr amrywiol gynghorion a roddir i ni yn y Dwyfol wirionedd, ni a gawn gan Solomon y cyngor canlynol: "Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dý Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid." Dylem fod yn dra syml, difrifol, a phwysig ein hagweddau bob amser wrth ddyfod tuag yno, pan yn, ac wrth fyned o, dŷ yr Arglwydd, ond yn neillduol pan o fewn y lle santaidd. Ystyriaeth ddifrifol bob ainser o hollbre- senoldeb Perchen y tý a'n gwnelai yn dra sobr pan o fewn y Ue cysegredig yma. Nid ydyw dyn yn ddyn (heb son am Gristion) oni fedr ymddwyn ac ymag- weddu yn addas, o ran moesau allanol,< yn mhob man ag y byddo. Pa beth, ynte, ond "aberth Ifyliaid" ydyw'r anfoesgarwch a'r ymddygiadau anaddas ag y mae dynion yn euog o honynt pan yn nhŷ yr Arglwydd ì Yr anfoes cyntaf a enwaf ydyw, Cnoi mygly&a chy- meryd treiuhoch.—Pell yr wyf fi o gredu fod defnyddio y cyfryw bethau o un llesâd unrhyw amser ; on'd O ! y mae ymwneyd â hwy yn nhý yr Arglwydd yn arfer- iad ffiaidd ac atgas. Ewch oddiamgylch i'r capel y perthynwch iddo, ar ol i'r gynulleidfa fyned allan ar nos Saboth, a bydd yn hawdd i chwi nodi allan eisteddle pob un sydd yn ymwneyd â'r arferiad moch- ynaidd o gnoi myglys. Adwaenom addoldy, ac y mae rhai o'r eisteddleoedd ynddo yn awr braidd yr un fath â phan yn newydd, pan y mae manau ereíll ynddo wedi eu hadgyweirio amryw weithiau, o herwydd fod y poercdd a'r llysnafedd sydd yn nglỳn â'r arferiad ffiaidd yma, yn pydru y coed ar y rhai y mae yn disgyn. Gweíir weithiau yr aflendid yma yn agoa 8 gorchuddip lloriau tai addoliad, a braidd y ceir