Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MAWRTH, 1850, Y LLU8ERN. DAROSTYNGIAD Y BYDYSAWD I IESTI. Po fwyaf manwl, cluwiolfryd, a chyson y myfyriwn yr oruchwyl- iaoth efengylaidd, mwyaf yr arweinir ni i ryfeddu mawrfrydedd ei datguddiadau. Arfera seryddwyr o gyrhaeddiadau uchel siarad yn hwyliog am y datguddiadau rhyfeddol o allu a doeth- ineb ddwyfol newydd y sydd yn ymdori gerbron eu golygon yn barhaus, pan yn defnyddio pob cymhorth celfyddydol. Felly hefyd y mae yn efrydiad datguddiadau uwch yr efengyl. Gad- awai chwe mil o flynod;loedd o ymchwiliad amyneddgar a dyfal- barâus i waith dwylaw üuw yr ymchwilydd synedig i ddolefain gyda gwyliedydd Israel, ' Wele, nid yw hyn ond rhan o'i waith !' ac er fod prif feddyliau y byd, er y dyddiau yr oedd yr apostolion yn cyhoeddi dirgelion Duw yn Nhrist, wedi bod ar waith yn erafí'u, eto, rhaid i'r un mwyaf cynyddol ddwoyd gyda Phaul, ' 0 ran y gwyddom.' Ac mor rhyfedcl yw y rhan hóno ! Mor odidog yw y meddwl fod yr un Iesu, a deithiai ar y ddaiar hon, yn ddyn, yn dylawd, digartref, dyoddefus, diystyrol, a gwrthod- edig, yn awr yn eistedd ar ddeheulaw y Mawredcl yn y nefoedd, Llywiawdydd y bydysawd ! Mor gyflawn y meddylrith fod y Nasaread crooshoeledig ar ddeheulaw Duw, gwedi ei dderchafu a'i orseddu tros y byd hwn a phob byd arall, tros ddyn a phob bôcl, yr un Arglwydd clros yr oll. ' Duw, gwedi iddo lefaru llawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y profìwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lef- arodd wrthym ni yn ei Fab; yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd ; yr hwn ac efe yn ddysgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynal pob peth drwy air eì nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwchleoedd.' Fel y'n ysbysir yma am y Messiah, ei fod 'wedi gwneyd y bydoedd,' ac yn ' cynal pob peth;' felly yr ysgrifenwyd mewn man arall, ' Drwyddo cf y crewyd pob dim a'r y sydd yn y nefoedd ac y sydd aryddaiar. yn weledig ac yn anweledig, pa un