Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NODWEDDION SECTIAETH. 13 NODWEDDION SEOTIAETH.—Rhif. v. CYFFROAD AM UNDEB CREFYDDOL. O Lusern y Dychweliad ! dadebra i ystyriaeth o'th gyfrif- oldeb ! Ymdrwsia mewn doethineb. Dos yn fynych ät yr apostolion i ymofyn olew, a llewyrcha y cyfryw yn belydrau llachar ar yr hen lwybrau sydd yn cyfeirio tua Ohaersalem, y rhai sy bron wedi eu gorchuddio gan groesffyrdd Rhufain. Y mae dy awr yn agoshau. Mae anghen mawr am dy oleuni, h.y., dy gymhorth i ganfod yn eglur, drwy gaddug sectiaeth, Gristionogaeth Wreiddiol, a'r moddion drwy y rhai y gellir dwyn o amgylch undeb crefyddol, fel y dengys a ganlyn. Y mae cytfroad rhyfeddol yn y byd crefyddol. Heb fanylu yn bresenol ar yr Ädfywiadau a gychwynasant yn America, ac a barhawyd ynyr Iwerddon, Almaen, Oymru, a pharthau o Loegr, ac yn awr draw yn India, yn mhellach na'u bod yn dangos bod a fyno rhyw Allu nas gall dyn mo'i àdyall â'r byd moesol; fod y Gallu hwnw yn ysgwyd pechaduriaid o flaen llygaid y sectau, er dangos ei anfoddlonrwydd wrth y cam- ddefnydd y maent wedi ei wneyd o'r hyn a adawodd Crist a'i apostolion ar y ddaiar yn berffaith " allu Duw er iachawdwr- iaeth i bob un a'r y sydd yn credu;" bod y sectau yn methu dangos i'r rhai a ddeffroir i ystyriaeth o'u cyflwr colledig fel yna y llwybr ysgrythyrol i deyrnas Iesu, am eu bod yn lle dysgu yr "un peth," yn dyrysu eu gwrandawyr â darluniadau o ffordd iachawdwriacth croes i'w gilydd ac i Air Duw, gan ddryllio trefn a chysondeb yr efengyl, heb ofalu dim am gyf- arwyddyd Pedr mewn achosion cyfelyb; bod ffrwythau hy- notaf yr Adfywiad yn enyn tuedd i chwilio yr Ysgrythyrau am y gwir; a bod yr enwadau crefyddol yn dechreu canfod drygioni, yn hytrach nà daioni sectiaeth. Ond y nodwedd neillduol y cyfeiriwn ati ynbresenol yw fody " byd crefyddol" wedi treulio wythnos i gynal cyfarfodydd gweddio unol (united prayer meetings) i ddiolch i Dduw am lwyddiant yr efengyl yn India yn benaf, ac i erfyn am i air yr Arglwydd redeg a chael gogonedd yn mhellach; a bod hyn wedi cael ei ddylyn gan argyhoeddiad yn meddyliau rhai canoedd o'r annghysondeb o ymuno mewn gweddi ac ymranu mewn gweithrbd. Dad- blygwyd y nodwedd hon y Sul diwcddaf mewn cyfarfod mawr yn y Free Mason's Hall, Llundain, lle y ceisiwyd ymuno mewn " cymundeb." Dosbarthwyd y papyryn canlynol, yn gosod allan amcan y cwrdd, yn mysg y gynullheidfa orlawn :— Ithif, 2, Cyf. III, Chwefiw, 1860.