Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOSTYÌÍGEIDDRWYDD. î>? GOSTYNGEIDDRWYDD. Y mae cryuiu pen a gwyro glin yn arferol ac yn foddhaol i arwyddo gostyngeiddrwydd; ond nid hyn yw gostyngeiddrwydd : gellir gwneyd hyn heb fod yn ostyngèdig ; a bod yn ostyngedig heb wneyd hyn j eto, fel arwydd o ostyngeiddrwydd y mae hyn yn arferol yn ein plith, ac yn ganmoladwy. " Ymdrwsiwch oddi fewn âgostyngeiddrwydd." Y gofyniadnaturiol a cllir ei ddys- gwyl ydyw, " Pa beth yw gostyngeiddrwydd ?" A'r atebiad ydyw, mewn gair byr, " Parchu ein gwaelach ac anrhydeddu ein gwell.'" Nìd oes neb yn rhy wael i'w barchu, oblegyd creadur Duw yw y gwaelaf yn gystal a'r gwychaf ; " Yn Àdcla brodyr oeddym, Ni gyd oll un gwaed ym, Un cnawd ac anadl ac un Duẃ genym." Y mae y gair gostyngeiddrwydd ynddo ei hun yn arwyddo myned i lawr, neu fod yn isel. Oynwysir gostyngeiddrwydd mewn coleddu meddyliau isel am danom ein hunain, am ein galluoedd, ein cyrhaeddiadau, a'n teilyngdod ein hunain, ac hefyd mewn adnabod ein hunain yn iawn, a barnu einhunain yn gywir; felly yn un o addurniadau penaf y ddynoliaeth. O'r nefoedd y daeth i lawr i'r ddaiar, i gael ei fagu a'i feithrin gan deulu dyn. Cafwyd ef unwaith à llais tyner a gostyngedig yn gwaeddi, " Adda, pa le yr wyt ti P" 0 ! y fath ost'yngeiddrwydd,pwy sydd yn ddigonol i dreithu arno ? Gyfoethogion, y rhai a gam-enwir yn foneddigion, deuwch i lawr i edrych arno, yr ydych chwi ytt meddwl fod yn sarhad arnoch siarad â dyn tylawd, chweithach chwilio am dano i fod yn drugarog wrtho. Os ydym am fod yn Üduwiol, rhaid i ni fod yn ostyngedig—yn debyg i Dduw. Ni chafodd neb erioed fwy o gam a'i nych-fagu nag a gafodd gos- tyngeiddrwydd. Ymwrthodai y cyfoethogion âg ef, gan ei yru at y tylodion; yr oedd y rhai hyn drachefn mor rwgnachlyd, anufydd, chwyddedig a balch, fel nas gallai gostyngeiddrwydd gael magwriaeth briodol yn eu plith. Diffyg iawn feithrin gostyngeiddrwydd yn bersonol, yn deuluol, yn gymdeithasol, ac yn deyrnasol sy gwedi darostwng miloedd i dylodi ac anghen. i ymladdau a rhyfeloedd—sy gwedi tywallt afonydd o waed dynol.. o ddyddiau Oain uchelfalch i ddyddiau y rhyfeloedd presenol yn America a lleoedd eraill. Wel, gan fod gostyngeiddrwydd o darddiad mor uchel a llesol, ac yn addurn mor werthfawr, a'r amddifadrwydd o hono yn achosi y fath alanastra yny byd, y mae'n naturiol gofyn, Pa fodd y mae magu a meithrin gostyngeiddrwydd ? Y mae i'w fagu a'i feithrin yn bersonol, fel y crybwyllwyd o'r blaen ; " Ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd." Y mae i'w feithrin hefyd yn deuluol; y gwr i barohu ei wraig, a'r wraig i anrhydeddu ei gw r felly daw y plant i anrhydeddu eu rhieni, a'r rhieni i fagu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr un modd y meistr i barchu ei was, gwna hyny i'r gwas fod yn ufydd a gos- Cyf. IV., Htiif. 9,—MeJi, U 61.