Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

&!ÉŴ®&Mfc Rhif. 19.] EBRILL, 1834. [Pms lg. EFFEITHIAU PECHOD. Yr unig achos o'r holl annedwyddwch a'r annhrefn a ddyoddefa trigolion ein byd ni, yw pechod. Cyn i bechod ddyfod iddo, yr oedd pob peth yn gysurus a dymunol; yr oedd yr olygfa arno yn hardd a phrydferth. Yr oedd pob peth yn tueddu yn uniongyrchol i gyffroi medd- wl pruddaidd, ac i adfywio natur flinedig. Yr oedd hóll olwynion rhagluniaeth yn cyd-droi o ochor dedwyddwch a llesiant ei gwrthrychau amryfath. Heddwch a chariad a deyrnasent yn mhob calon, ac nid oedd dim a dueddai i aflonyddu y fynwes, na dwyn yr un annedwyddwch i gyrau y fro. Eithr, trist yw adrodd, pan ddaeth pechod i mewn i'r byd, daeth pob an- nhrefn ac anuedwyddwch i mewn iddo