Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYCH. Ehif. XIV.] EBRILL. [1826. BALCHDER. Y MAE dyn wedi myned i sefyllfa mor isel 'a thruenus o herwydd y syrthiad yn Eden, nes ydyw wedi myned yn gyfaill i bob drwg-, ac yn elyn i bob da. Ỳn ol y desgrifiad ysgrythyrol, mae ei galon wedi myned yn nyth i bob aderyn aflan, ac yn y sefyllfa honwedi ymchwyddo mewn balch- der a rhyfyg- yn erbyn ei Greawdwr, fel y mynnai ei ddifodi pe medrai; ac mae'r Arglwydd yn dangos yn ei air sanctaidd nacî oes dim yn fWy ffiaidd yn ei olwg nâ balchder. Dywed y Creawdwr mawr ei hun ei fod yn ei adwaen o hirbell; dywedir mai balch- der oedd yr achos i'r angylion glân fyned yn gythreuliaid aflan. Balchder hefyd a fu yn achos o droi Nebuchodonosor (brenin Babilon) am saith mlynedd i bori g-laswellt gydâg anifeiliaid y maes, ac a dueddodd y bobl i adeiladu tŵr Babel, gan ddywedyd wrth eu gilydd, " Moeswch,adeiladwn i ni ddinas, a tíiŵr a'i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, fel na'n gwasgurer ar