Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DRYCH. Rhif. XX.] HYDREF. [1826. "Côfîa y dydd Sabbath i'w sancteiddio ef." A ddarftj i ti erioed ystyried ystyr y y g-orchymyn hwn ? bydded i ti aros dros funudyn a dwys-ystyried. A ydwyt ti yu cadw oriau'r Sabbath yn sanctaidd yn awr? Ti a elli gwerylu â'r gorchymyn dwyfol yn awr, a chael llawer o esgusodion i dy fodd- loni dy hun, ac î lonyddu dy gydwybod; ond gwrando beth a ddywed Duw, "Hal- ogaist fy Sabbathau, a bery dy galon, a gryf- ha dy ddwylaw yn y dyddiau y bydd i mî a wnelwyfâ thi? myfì yr Arglwydd a'i llaf- arais, ac a'i gwnaf." Ezec. 22.8, 14. Yr wyt yn gweled lliaws nad yw yn peidio "ceisio eu hewyllys eu hunain ar ddydd santaidd yr Arglwydd." Esa. 58. 13. Ai oblegid nad oes dim niwed yn dygwydd îddynt hwy, ac "O herwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg- yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd ynllawn ynddynt i wneuthur drwg." Preg. 8. 11. Pa faint o Sabbathau yr ydwyt ti gwedi dreulio mewn seg-urdod, neu mewn ystod weithgar o bechu? Gwrando yn awr ar genadwri Duw