Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMOFYNYDD, CHWEFROR, 1861. TRAFODAETH Y CRISTION GYDA'R BYD PRESENOL. (Parhad o tudal. 5.J Y mau i bob dyledswydd ei hegwyddor argymhellol, wedi ei heglurhau yn Ngair üuw, wrth yr hwn y dylem drefnu ein cynlluniau oll:—a'r egwyddor gymhellol i fod yn ddi- wyd neu weitbgar chwe' diwrnod yw, " fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddiallan, ac na byddo ar- nooh eisiau dim." 1 Thes. iv. 12. Mewn lle arall, gan gyferbynu esgeulusdod i îadrad, anogir " Yr hwn a ladr- ataodd na ladrataed mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylaw yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfranu i'r hwn y mae angen arno." Eph. iv. 28. Os bydd y Cristion yn esgeulus yn ei orchwyl, ei alwedigaeth, neu ei lafur, a hyny i eithafion, y mae trwy ei esgeulusdod yn ei analluogi ei hun i dalu ei ddyledion, ac yn colli ei olwg ar yr egwyddor o gyfiawn- der; ac fel y mae yn alarus meddwl, yn dyfod yn dorwr ammod. Y wers benaf o Gristionogrwydd ymarferol, gyda golwg ar ail lech y ddeddf, ydyw ymddwyn yn gyfiawn tuag at bob dyn: a pha rinwedd Gristionogol a ddysgwylir mewn proffeswr crefydd a fyddo yn ddiffygiol o egwyddor onest a chyfiawn? Yn un o anogaethau yr Apostol crybwyllwyd am "rodio yn weddus tuag at y rhai oddiallan;"—o herwydd y mae diffyg o hyny yn peri i enw yr Arglwydd, ar yr hwn yr ymgyfenwant, gael ei gablu gan yr anghredinwyr, y rhai sydd graffus i ganfod camymddygiadau proffeswyr yr Efengyl; ac y mae hyny yn beth torcalonus i'r rhai a ystyriont y eysylltiad sydd rhwng bod o "ymarweddiad gonest yn mysg y cenhedloedd,