Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMOFYNYDD. MEHEFIN, 1861. DEFNYDDIOLDEB LLYFR YR ACTAU. Act. i. 1, 2.—Y mae llyfr yr Actau yn ffurfìo rhan o ddatguddiad y Testament Newydd. Y mae yn ddiau yn rhan o'r ysgrifeniadau Dwyfol—ac o fudd annhraethadwy i Eglwys Crist. Y mae yn sefyll fel cyfrwng cysylltiadol rhwng traethiadau yr Efeugylwyr a llythyrau yr Apostol- ion at yr Eglwysi. Y mae yn dechreu gydag esgyniad Crist i'r nefoedd; yr Efengylwyr yn terfynu gyda'r hys- bysiad o'i adgyfodiad oddiwrth y meirw; Mat. xviii., Marc xxi., Luc xxiv. Mae yr ysgrifenydd yn dechreu ei draethawd drwy gyf- eirio at un a ysgrifenasai yn fiaenorol; yr hyn a arddengys ei fod yn ystyried yr hyn a ysgrifenai yn bresenol fel ad- gyfienwad neu barhad o'i draethawd blaenorol, er dwyn yn mlaen hanesyddiaeth Gristioncgol am faith fiynyddau. Naturiol i'r meddwl yw ymofyn, pwy ydoedd awdwr y llyfr? Y mae yr ymadrodd yn yr adnodau cyntaf yn tueddu dyn i farnu mai Luc yr Efengylwr ydoedd, wrth gydmaru yr arweinìad i mewn yn y naill draethawd a'r llall; y mae Luc, yn ei ragymadrodd i'w Efengyl yn dy- wedyd, "yn gymaint a darfod i lawer gymeryd mewn llaw," Luc i. 1—4, dyben y traethawd blaenorol, sef yr Ef- engyl> yr byn a rodded mewn ysgrif (ac a draddodasid o'r blaen trwy eiriau) fel y byddai i'r gwirionedd gael ei sicr- hau a'i seíydlu ; ac yma drachefn, yn cyfeirío "at yr holl bethau a ddeohreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu, hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny, wedi iddo drwy yr Ysbryd Glâu roddi gorchymynion i'r apostolion a etholasai." Y traethawd blaenaf yn hysbysu y pethau a ddechreuodd