Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMOFYNYDD. AWST, 1861. Y DDEDDF A'R EFENGYL. " Y mae y dcteddf yn sánctaidd, a'r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda,------eitlir myfi sydd gtiawdol, wedi r'y ngwerthu dan bechod." —IÍhuf. vii. 12, 14. "Canys nid oes arnaf gywiiydd o efengyl Crist, oblegyd gallu Duw yw hi er rachawdwriaeth, i bob un a'r sydd yn credu.1'— ÍIhuf. i. 16. " Vr ydym ni, gan hvny, yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn heb weithredoedd y ddeddf.'—Rhuf. iii. 28. Y mae tragywyddol reol cyfiawnder yn ddigyfnewid, fel perffaith gyfraith Duw, yti hawlio parch a phob ufydd-dod o herwydd ei chyfiawnder a'i huniondeb; "dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a'th gyfraith sydd wirionedd;" Sal. cxix. 142. Y rnae yn cynwys rhybuddion Duw, fel greddf, megys ar galon a chydwybod dyn, pe byddai heb un datguddiad arall, " Y rhai hyn, heb fod y ddeddf gan- ddynt, ydynt ddeddf iddynt eu huna'n ; y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonau, »'u cydwybod yn cyd-dystiolaethu, a'u meddyliau yn cy- huddo eu gilydd neu yn esgusodi ;" Rhuf. ii. 14, 15, Yr ydym yn gyfrifol i Dduw fel ein Creawdwr, tin Cynaliwr, a'u Noddwr, am y maníeision â pha rai y niae wedi ein cynysgaet.hu, pa fodd y byddwn yn eu defnyddio ; oblegyd y mae pob trosedd ar ei gyfraith, yrhon sydd yn sanctaidd, yn gyfiawn ac yn dda, yn galw ara gollfarn arnom. Darfu i'r Arglwydd Iesu Grist, yn nyddiau ei gnawd, agoryd neu egluihau y gyfraith hon yn ei manylrwydd a'i hysbrydoK< rwydd, yn nghyda'i heffeithiau,—nid yn imig ar yr ym- ddygiadau allanol, ond hefyd y meddyliau, y bwriadau, neu drachwautau y galon; Mat. v. 28. Addysgodd yr