Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFAILL RHINWEDD. RniFé 6. AWST, 1846. Cyf. ©©tFÖÄÖiOTo llanes Joîasa 3Fs'if2a. Ganwyd y tyst nodedig hwn naill ai yn Llundain, neu yn Seyen Oaks, o fewn Sir Caint, oddeutu diwedd y flwyddyn 1507, neu ddechreu y ganlynol. Anfonwyd ef yn lled ieuanc i brif-ysgol Caergrawnt; ac yno dangosodd yn fuan fod yn- ddo athrylith a diwydrwydd i ddysgu yn mheìl tu hwnt i'rf gyfoedion. Symudwyd ef oddiyno i brif-ysgol Rhydychen, lle y daeth i gydnabyddiaeth â Mr. Tynda], cynghorion ac addysgiadau pa un a fendithiwyd iddo er ceuhedlu yn ei galon ymserchiad gwresog a diffuant at y gwirioneddau dwyfol, a gwir dduwioldeb. Ond nid hir y cafodd lonydd- wch yno; bu gorfod arno fel llawer etaill, ffoi o'r deyrnas ; a chyda'i hen athraw, Mr„Tynd^l v bu ar ffo am yn agos i ddwy flynedd. Ar ddeisyfiad rhài o'i gyfeillion, daeth tros- ödd i Loegr; ond am fyr amser y parbaodd ei ddiogelweh. Clywodd Sir Thomas More, Canghellwr y deyrnas, arn ei ddychwe-liad; a thrwy dwyll a brâd gau gyfaill yn Llmidain, cafodd ei ddal a'i garcharu yn y'Iwr Gwyn, lle'y bu am amryw fisoedd. O'r diwedd, rhoddodd y Brenin Harri (yr hwn oedd wedi ei dramgwyddo yn ddirfawr am hir oediad ei achos) orchymyn ar Cranmer, Archesgob Caergaint, Stoclc- ley, Esgob Llundain, yn nghyd âg Esgx>bion eraill, i holi Mr. Frith; a rhag i niferi gormodol o ddinasyddion Llnndain ymgaslu i glywed yr holiadj fe symudodd Granmer o Lam- beth i Croydon, a chytunwyd ar i'rs-wydilogion eraill ddyfod