Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. ADDYSGIAD Y GENEDL. Nl chafodd y werin mewn un wlad, hyd y dydd hwn, brofi manteision addysg. Mae addysg wedi bod hyd yn hyn bron yn llwyr yn ctifeddiaeth rhyw ddosbarth o'r bobl, ac nid y bobl oll. Y graddau o addysg a fwyn- hêid yn mysg y paganiaid, gan y dosbarth a elwid philosophyddion neu offeiriaid yr oedd. Yn ocsoedd tywyll Cristionogaeth, Cristionogaeth niewn enw, ond niath o baganiaeth ofergoelus ydoedd, wedi ymwisgo âg enw ac â rhai o ddefodau Cristionogaeth—nid oedd addysg yn cyrhaedd mo'r werin, ond cyfyngid ef i'r hicrarchy Pabaidd, y llywodraethwyr eglwysig. Ac er maint yr ysgogiad a roddwyd i wybodaeth a rhyddid yn mysg y bobl trwy y Diwygiad Protestanaidd ar y cyfandir ac yn Mhrydain, wrth gymharu gwedd pethau â'r hyn a fu, eto, nid oedd addysg fyth yn feddiannol ond gan ddosbarth, Nid oedd y Bibl eto i'w gael ond mewn ün tŷ allan o bum mil, a llai na hyny oedd yn alluog i'w ddarllon. Aros- odd effeithiau trymaidd Pabyddiaeth ar syniadau ae arferion y Averin \ n nihell ar ol ei ddiorseddiad gwladol. Dywed hanesiaeth i ni fod adfyw- iad mawr iawn wedi cymeryd Ue yn nyddiau y frenines Mlizabetb. A sier yw ddarfod coroni ei hoes hi â swp lliosog o ddynion enwog mewn gwlad- yddiaeth, llëenyddiaeth, a chrefydd. Eto nid yw yr hanes wedi gweled yndda godi i'nsylw pa fath ydoedd ansawdd y werin y pryd hynj^chwaith. Yr oeddynt hwy, ar y cyfan, yn aros yn yr un gaddug nosog o anwybod- aeth ac ofergoeledd: eto fe elwir hon yr " Augustan age." Yn yr oesoedd dilynol, a gyfansoddai yr hyn a elwir yr " oes auraidd " (the golden age), nid ocdd awdwyr na darllenwyr wedi cyrhaedd nemawr ddosbarth ond y honeddwyr a'r gwŷr eglwysig—gwŷr o sefyllfa, ac àddysgasid mewn athr- ofeydd. O hyny hyd yn bresennol, y mae addysg yn gweithio ei flbrdd yn raddel, eto yn araf, at gorft' y genedl ? a dysgwyliwn na ddybena y cyffro presennol ddim nes bydd pob un o ddeiliaid ei Mawrhydi yn eti- íeddu gradd, rnwy neu lai, ehelaeth o addysg. Gwelsom mai "dyn ydyw ei wrthddrych. Ac nid rhyw ddosbarth neu sefyllfa o ddynion, ond dyn, o ba radd bynag—a hyny am mai dyn ydyw. Nid y w dyn y peth a ddylai fod hebddo. Mae yn hanfodol i'w ddyrchafu 1 r gradd y bwriadwyd dyn i sefyll ynddo, pan y cynnysgaethwyd ef â'r íath alluoedd ysplenydd, gan mai addysg ydywr y moddion apwyntiedig i ẁlwyn allan i weithrediad grymus a buddiol y galluoedd hyny; ac heb yr addysg hwnw, gan ba faint bynag ydyw y cynneddfau cynhenid, maent yn rhwym o orwedd yn segur a marw, a digynnydd. Parodd igwcinidog- aetn Whitfield a Wesley elì'aith rymus, i beri ysgogiad teg tuag at chwalu LGOItPHENAF, 1847.] t