Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. ATHRONIAETH Y MEDDWL. [An Historical and Critical View of the Speculatẁe Philosophy of Europe iìi the Nineteenth Century. By J. D. Morell. Golwg Hanesyddol a Beimiadol o Athroniaeth y Bedwaredd- ganrif-ar-bymtheg. Gau J. D. Morell.] Y mae y llyfr, cyfenwad pa un a roddir uchod, yn waith pur nodedig, wedi tynu llawer o sylw, ac wedi ennill llawer o glod ymhlith llëenyddion Lloegr. Y mae yn trin rlian o wybodaeth o bwys diammheuol, ond un hynod o ddyrys ac anhawdd ei dëongli, mewn modd dealladwy i feddyliau y cyflredin. Ymddengys i ni fod Mr. Morell wedi bod yn llwyddiannus i raddau anarferol yn ei ymdrechiadau i roddi golygfa glir a chyson ar y testun mawr a helaeth ag y mae wedi gymeryd mewn llaw. *' Anaml y darllenasom awdur," meddai Dr. Chalmers, yn yr erthygl ddiweddaf, mae yn debyg, a ysgrifenodd cyn ei farwolaeth, " ag a fedrai gyflëu ei syniadau mewn dull mor oleu ; a'r rhai hyny, nid yn ysgafn ac arwynebol, ond yn sylweddol a dwfn, fel yr athroniaeth ag y mae yn ymdrin â hi." Gan fod arwyddion pur amlwg fod athroniaeth y meddwl, ar ol ei hir esgeuluso yn y wlad hon, yn debyg o gael ei dwyn i sylw adnewyddol, a'i thrin ar egwyddorion gwahanol iawn i'r rhai a fu mewn rhwysg hyd yn hyn, y mae arnom chwant amcanu cymeryd mantais ar waith Mr. Moiell, i geisio arwain ein cydwladwyr, yn enwedig y dynion ieuainc sydd yn darllen y " Traethodydd," i gael cipolwg ar y maes helaeth ae ardderchog a agorir o'n blaen yn y cyfrolau campus hyn. Efallai y byddai yn hoff gan ein darllemvyr gael ychydig o wTybodaeth ymlaen llaw inewn perthynas i'r ysgrifenydd. Gŵr lled ieuanc ydyw Mr. Morell, wedi ei ddwyn i fynu i'r weinidogaeth ymhlith yr Annibynwyr, yn Athrofa Homertou. Mae yn nai i'r Parch. Thomas Morell, oedd yn athraw duwinyddol yn Athrofa Coward o flaen ein hybarch gydwladwr, Dr. Jenkyn. Bu am rai blyneddau yn weinidog ar eghvys Annibynol yn Gos- port, Hampshire ; ond nid yw tuedd athronyddol ei feddwl yn ei gym- hwyso, ni a dybygem, i fod yn llwTyddiannus iawn fel pregethwr i'r werin. Drwg genym glywed ei fod yn ddiweddar wedi derbyn y swydd o ym- welydd (inspector) ysgolion o dan y llywodraeth. Yn y rhagymadrodd i'r gwaith hwn, rhydd yr awdur hanes býr a dydd- orawl o'r cylch ar hyd pa un yr arweiniwyd ei feddwl wrth olrhain ei ym- ot'ynion i'r astudiaeth uchel hon. Dechreuodd trwy ddarllen traethawd enwog Locke " On the Human Understanding" Bu hyn yn foddion i EBRILL, 1848.] l