Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. GOETHE. Y mae yn hysbys i'n darllenwyr ein bod yn ystyried Duwinyddiaeth fel y benaf o'r holl wybodaethau. Ond yr ydym yn teimlo hefyd na ddylai duwinyddion gau eu hunain i fyny, mewn ysbryd mynachaidd, oddiwrth y byd sydd o'u hamgylch; oblegid y maent trwy hyny yn crebachu eu meddyliau, ac yn gwneyd eu hunain yn greaduriaid gweiniaid ac afiachus. Mae y dyn sydd yn cyfyngu ei holl fryd at un gangen o wybodaeth yn gyffelyb i dir wedi ei gadw trwy 'r blyneddau at yr unrhyw gnwd, nes y mae o'r diwedd yn colli ei ffrwythlonrwydd. Nid oes dim yn well i dir ac i ddyn na newid yr had, tra y gofelir na fyddo efrau ac ysgall yn cael eu hau yn gymysg â'r gwenith. Dylai y duwinydd fod yn gyfarwydd mewn modd arbenig yn hanes llenyddiaeth y byd, ac yn ngweithiau y prif awd- wyr llenyddol, hen a diweddar. Un ran o lenyddiaeth yw barddoniaeth: ac at un o feirdd enwocaf yr oes hon yr ydym yn awr yn galw sylw y dar- llenydd. Cyfarfyddir yn fynych mewn llyfrau Seisnig âg enw Goethe.1 Nid yw Carlyle yn ysgrifenu nemawr draethawd heb son am dano. Fe allai mai efe yw y bardd mwyaf a ymddangosodd er dyddiau Milton: o'r hyn lleiaf edrychir arno felly gan lawer yn y wlad hon, a chan y cyffredin o'r Almaenwyr. Naturiol, gan hyny, yw gofyn, Pwy oedd y bardd hwn ? a pha beth a wnaed ganddo? Ni a geisiwn ateb y gofyniad; ac ymdrech- wn fod mor fỳr ag y byddo modd, gan nad oes ond ychydig o'r Cymry yn alluog i deimlo dyddordeb yn y rhan yma o'r maes llenyddol. Mewn perthynas i'w fywyd a'i farwolaeth, digon yw dywedyd iddo gael ei eni yn Frankfort-on-the-Main yn y flwyddyn 1749. Bu yn fwy ffodus na'r beirdd yn gyffredin. Gwahoddwyd ef gan Dywysog "Weimar i'r llys yn 1775, a gwnaed ef yn gyfrin-gynghorwr (geheimrath) yn 1779. Oran hyny, y mae yn well ar lenyddion yn mhob gwlad nag yn Mrydain. Y rhai a enwogasant eu hunain fel awdwyr sydd yn aml yn cyrhaedd y sefyllfaoedd uchaf ar y Cyfandir. Pa fodd bynag, cafodd Goethe y fraint o dreulio gweddill ei oes yn Weimar mewn llonyddwch ac anrhydedd. Ysgrifenodd liaws o lyfrau; a bu farw mewn oedran teg yn y flwyddyn 1832. Cyn, yn gystal ag ar ol ei farwolaeih, cyhoeddwyd rhai ugeiniau o gyfrolau ar y Cyfandir i esbonio a chanmawl ei ysgrifeniadau. Y gwaith penaf o'i eiddo, a'r hwn sydd wedi ennill mwyaf o sylw, yw " Faust" yr hwn a gyhoeddwyd yn ddwy ran. Y mae rhoddi cip-golwg ar y rhan gyntaf, yr hon yw yr oreu o lawcr, yn ddigon o orchwyl i ni yn yr ysgrif 1 Gall y Cyniro ei alw yn Gete. Ond nid oes un sain yn Gymraeg yn ateb yn hollol i oe, neu yn hytrach i ö yn yr ALmaenaeg. Ebrill, 1851.] l