Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. ALEXANDER, HANNIBAL, A C^ESAR. Yn gyflfredin, y mae ysgrifenwyr yn teimlo mai peth anhawdd iawn yw ysgrifenu bywgraffiad; canys ar un llaw, gall rhai pethau a ymddangosant i'r ysgrifenydd yn ddiflas a dibwys, fod yn raarn ei ddarllenwyr y pethau mwyaf pwysig ac anghenrheidiol i'w gosod i fewn o bob peth yn yr holl gyfrol neu draethawd; ac ar y llaw arall, gall pethau fyddant yn marn yr ysgrifenydd yn hynod bwysig a dyddorol, ymddangos i rai o'i ddarlleuwyr fel pethau y dylasid eu gadael allan yn hollol am eu bod yn ddiwerth a salw. 0 herwydd hyn, y mae yn ei theimlo yn hynod anhawdd gwneyd chwareu teg â'i wrthddrych, ac ysgrifenu rhywbeth fyddo yn debyg o gael ei ddar- llen. Ond os yw yn anhawdd ysgrifenu bywgraffiad dyn cyífredin, yn hanes yr hwn ni chymerodd ond ychydig o bethau anghyffredin le, pa faint mwy anhawdd raid ei bod mewn traethawd byr, i ysgrifenu bywgraffiad cymharol, neu roddi golwg gywir ar gymeriad, tri o'r dynion mwyaf a hyn- otaf mewn llawer ystyr a ymddangosasant yn y byd erioed ? Gellir dy- wedyd am y rhai hyn, eu bod yn ddynion y medrir ífuríìo lliaws o wahanol farnau am eu cymeriadau, yn ol y gwahanol sefyllfanau oddiar ba rai yr edrychir arnynt; dynion a wnaethant lawer iawn o ddrwg, ac a fuant yn foddion ì gynnyrchu llawer iawn o les i ddynolryw; dynion nad ymladdas- ant am ddim llai na llywodraeth y bydyn grwn ; dynion a ymddangosasant am flynyddau fel yn anorchfygol er holl lid gelynion a bradwriaeth cyfeillion gau; dynion ná chawsant ond ychydig gymhorth allanol, eithr a gynnelid yn eu hymgyrch drafferthus gan y nerth mewnol oedd yn eu calonau; dynion a feddent ar benderfyniad meddwl mor gryf, fel na welwyd eu cyfíelyb oud yn bur anfynych ymhlith meibion Adda; dynion y crynai y byd rhag swn eu harfau, ac y ffoai cenedloedd cyfain rhag trwst eu dynesiad, ac yr oedd tynged y byd yn crogi ar eu llwyddiant neu eu haflwyddiant; dynion a gyf- newidiasant holl agwedd allanol cymdeithas, a flurfiasant berthynasau a chysylltiadau newyddion rhwng teyrnasoedd â'u gilydd, ac a wnaethant, fe allai, fwy na neb personau unigol eraill er dadblygu meddwl dyn a pharotoi ffbrdd i'r gwelliant anghymarol a ddygwyd i'r byd gan Gristion- ogaeth. Hyn, a llawer yn ychwaneg, oedd y dynion am ba rai yr ydym ar fedr traethu yn bresennol. Alexander, Hannibal, a Ca?sar, ydynt enwau wedi eu hanfarwoli mewn hanesyddiaeth. Mae eu gwrhydri milwraidd yn ddigon i beri i ryfelwyr diweddar guddio eu wynebau gan gywilydd. Mae 1855.—2. K