Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. GWIR WERTH ADDYSG. Y mae yn debyg y gall y Traethodydd gymeryd yn ganiatäol fod pob un o'i ddarllenwyr, dros ryw gyfran o'i oes, wedi mwynhâu mwy neu lai o'r hyn a elwir yn addysg. Ond odid nad ellir cymeryd y ffaith ei fod yn un o'i ddarllenwyr, fel prawf boddhâol o hyn. Ónd a ystyriaist ti, ddar- llenydd hoff, pa beth oedd dyben mawr dy addysgiad, ac ymha beth yr oedd ei wir werth yn gynnwysedig ? Os do, da y gwnaethost; os naddo, eistedd i lawr ychydig fynydau, a bydded i ti a minnau gael ymddyddan difrifol a chyfeillgar ynghylch hyn; ac ymdrecha feddiannu dy amynedd tra y byddwyf yn amcanu gwasgu at dy ystyriaeth y fath wirioneddau â hyn,—mai dyben mawr addysg, yn ei berthynas â thydi, ydyw dy wneuth- ur yn ddyn, ac yn gyfryw ddyn ag y mae Duw yn ymhyfrydu ynddo; ei fod yn estyn nid dros gyfran o'th oes, ond yn rhedeg yn gyfochrog â'th dragywyddol barhâd; îe, mai yr un, o'u holrhain i'w gwraidd, yw bywyd dyn a'i addysgiad. O herwydd pa beth yw bywyd dynol ? Ai tyfiant corfforol, ychwanegiad at ronynau y cnawd, cylchrediad y gwaed, cnöad a threuliad bwyd, anadliad a chwsg ? Na ato Duw ! canys yna, ni byddai dyn ond anifail. Bywyd dyn ydyw dadblygiad graddol ei alluoedd, tyf- iant a bywiogrwydd ei holl fôd, a chynnydd yr enaid. Nid bywyd mo hono ond i'r graddau ag y mae yn addysgiad, neu ddadblygiad yr enaid. Yr enaid, meddaf; o herwydd fod enaid a gymeraf yn awr yn ganiatäol, fel fy modolaeth a'm unoliaeth personol fy hun; ac nid cynt yr ammheu- wn y blaenaf na'r olaf. Gwirionedd ydyw, nid i'w brofi drwy ffurfiau cyf- reswm, ond i'w deimlo yn ngwres ymwybodolrwydd ; a thruenus yn wir yw cyflwr yr hwn na ddeffröwyd erioed i deimlad o hono. Pa beth yw yr enaid hwn, pa berthynas sydd rhyngddo â phethau eraill mewn natur, pa gysylltiad sydd rhyngddo â gîau, ymenydd, neu waed, pa mor agos berth- ynas ydyw i'r cylla neu i'r cyllnodd, gadawaf i eraill benderfynu; ond o fodolaeth y reality hwnw, ag sydd yn rhoddi gwerth a sylweddolrwydd i bob peth arall—i ser, a moroedd, a mynyddoedd, heb son am gahanic batteries, a pheirianau bwyd-dreuliol—nac ammheued neb. O bob peth sylweddol, hwn yw y mwyaf—yr ardderchocaf; yn rhinwedd hwn y mae gwir yn wir, a dyn yn ddyn, ac fel dyn yn gallu llefain— " Fy ysbryd a gaetbgluda 'r bydoedd fry, A gwasga 'u cyfoeth allan." Yr enaid hwn, gan hyny, yr hwn sydd o herwydd fy mod i, neu yn hytrach o herwydd yr hwn yr wyf fi, yw ffaith sylfaenol fy modolaeth— 1808.—1, b