Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. Y DDWY NATURIAETH A'R CYFRYNGDOD. Y mae lliosogrwydd, ac amrywiaeth, a graddoliaeth, yn nodweddu pob rhan o grëadigaeth Duw. Felly yr ydym yn gweled gyda y rhan ddifywyd, a chyda y rhan fywydol afresymol; ac felly y mae yn rhaid i ni gredu ei bod hefyd gyda y rhan resymol. Er fod dyn yn rhagori yn annhraethol ar holl grëaduriaid y ddaear, mae dysgeidiaeth y Bibl yn ein cyfeirio at grëaduriaid rhesymol ag ydynt, o ran eu galluoedd gwreiddiol, yn rhagori arno yntau. Ac yn wir, a gadael dadguddiad o'r neilldu, fe dybygid y gallasai rheswm gasglu nad yw y gadwen hirfaith o rywogaethau neu fodau creuedig yn terfynu gyda dyn, ond fod dosbarthiadau o grëaduriaid mwy ac uwch nag ef yn ddeiliaid llywodr- aeth y Goruchaf. Os oes oddiwrthym dì i lawr hyd at y milionos bychain, yr animalculce sydd yn anweledig i'r llygad noeth, y fath ddis- gyniad graddol yn y gadwen fawr, fel nad oes un naturiaethwr a all benderfynu i sicrwydd pa le y mae'r naill ddolen yn dybenu a'r ddolen arall yn dechreu,—mae yn naturiol i ni dybied y rhaid fod eto grëadur-. iaid uwchlaw i ni, yn preswylio yn yr ehangder anfeidrol sydd rhyngom â'r Duwdod, a'r rhai hyny yn cyfodi yn uwchuwch, o ran deall a gallu ac urddas, i fesur nas gallwn ni yn bresennol ddirnad am dano. Yr ydym yn cael athronwyr enwog yr hen oesau, er yn amddifaid o Air Duw, yn credu yn hanfodiad bodau ysbrydol, anweledig i ddyn ac uwch uag ef, yr hyn sydd brawf nad ydyw y syniad yn wrthwyneb i reswm naturiol dyn. Ond yn llyfr yr Arglwydd yn unig y ceir sicrhâd ac eglurhâd penderfynol ar y mater hwn; ac y mae yn weddus i ni chwilio yn fynych i'r hyn a ddywed yr Ysgrythyr ar hynyma, o herwydd y mae byny yn ysgrifenedig, nid i foddhâu ein cywreingarwch, ond er ein gwasanaeth a'n hadeiladaeth. Yr ydym yn cyfarfod yn y Bibl â chrybwylliadau lawer am yr ysbrydion aiawrion, ardderchog, a difiin o ran eu natur, a elwir yn fwyaf cyfiredin yn angelion, pa enw sydd ynddo ei hun yn arwyddo swyddogaeth yn hytrach na naturiaeth. Am y rhai hyn, fe'n dysgir iddynt ddyfod o law yr Arglwydd eu Gwneuthurwr yn dysgleirio mewn harddwch sancteidd- rwydd, wedi eu cynnysgaethu â chynneddfau goruchel, cyfaddas i ben- ^eíigion ymherodraeth y Brenin Mawr, ac y rhoed hwynt i gartrefu yn ^MnÌnllyS nef y neíoedd» i dderbyn eu gwynfyd yn ddigyfrwng oddiwrth y Mawredd Anfeidrol, ac i fod yn barod i wneuthur ei air Ef. Ond yr yuym yn cael am ran liosog o'r crëaduriaid uchelradd hyn, nad arosas- H'l/îi 6U Perffeitnrwydd, ond ddarfod iddynt wrthryfela yn erbyn yr oUalluog, a syrthio yn anrhaith cyfiawn i'w ddigofaint. Gyrwyd