Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. POEN. Weth edryeh o amgylch, ar bob llaw, nid oes dim yn fwy eglur na'r gwirionedd fod poen yn y byd hwn. Y mae hyn, mewn modcl anwad- adwy, yn cael ei ddysgu a'i brofi yn mynwes pob dyn yn bersonol. Y mae dyoddef megys yn etifeddiaeth i ddyn. Fel rheol gyffredin, gellir dyweyd fod dyn yn cael ei eni " i flinder fel yr eheda y wreichionen i íyny." Y mae yn agored i ofidiau oddiwrth bob peth. Nid oes aelod perthynol i'w gorff, gallu perthynol i'w feddwl, serch perthynol i'w galon, un sefyllfa na pherthynas ag y mae yn ddichonadwy iddo fod ynddi, ag nad ydyw yn agored i boen oddiwrth y cyfryw. Y mae. poeri," megys môr, yn dygyíor o'i amgylch, ac yn suddo i'w gyfansoddiàd trwy fil myrddiwn o fân agenau. Pan ar ei ben ei hun, bydd dyfroedd y diluw ymron ei orchuddio rai prydiau; a phan yn nghanol y líiaws, nid oes ganddo ddim i'w ddiogelu rhag nerth y tònau; a rhwng y llifeiriant oddiallan a'r ddryghin sydd oddifewn, bydd yr enaid rai prydiau fel pe yn nghanol tònau cleufor-gyíarfod. Os yn dlawd, y mae yn nghanol gofidiau; os yn gyfoethog, nid ydyw ei flinderau, oblegid hyny, o leiaf yn ddim llai; os tad, os mam, os mab, os merch, os meistr, os meistres, os gwas, os morwyn,—beth bynag yw ei sefyllfa, y mae yn llawn blinder. Y mae yn dyoddef oddiwrth y gwres, yn dyoddef oddiwrth yr oerfel; yn cael ei flino gan y gwlybaniaeth, yn cael ei flino gan y sych- der; y mae ei berthynasau yn ei ddolurio pan yn fyw, yn briwo ei galon pan yn marw; y mae y presennol yn llawn o boen, y mae ei ofid yn fwy dwys fyth wrth edrych ymlaen, ond mwy poenus na'r cwbl fyddai meddwl myned yn ôl; y mae beichiau bodolaeth yn gwasgu arno yn drwm, ond byddai y syniad o ddifodiant yn annyoddefol. Y mae pob dyfais o'i eiddo yn llwyr aneffeithiol hefyd i'w gadw rhag dyoddef. Nid oes dim ag y mae plant dynion wedi bod yn sefyll uwch ei ben gyda mwy o ddwysder, dyfeisgarwch, ac egni dyfalbarhâus, na'r ymofynìad, Pa fodd y gellir difodi neu leihâu poen? Ond ffrwyth y cwbl, yn fynych, ydyw ychwanegu gofidiau, ac nid eu diddymu na'u lleihâu. Ýr oedd y Pregethwr, yn ei ymchwiliadau galluog ar bwnc ein hysgrif, wedi gweled y methiant hwn, ac yn cyhoeddi—" Mewn llawer o ddoeth' ineb y mae llawer o ddig, a'r neb a ychwanego wybodaeth a chwane^a ofid." Cwestiynau mawrion yr athronydd ydyw, Pa beth? a Phaham'? Cwestiwn y dyn ymarferol ydyw, I ba beth? Natur ac achos a 1867.—3. s