Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TBAETHODYDD. DAFYDD DAFIS, COWARCH. Diammheu y bydcl llawer un o'n darllenwyr yn barod i ofyn,—» "Dafydd Dafis/ Cowareh! pwy yn y byd oedd hwnw? Pa beth ydoedd? Pa bryd yr oedd yn byw? Beth a wnaeth yn haeddu cael sôn am dsno yn fwy na llawer Dafydd Dafis arall? A pha le y mae Cowarch? Dê neu Ogledd y Dywysogaeth? Ymha Sìr? Tref, pen- treí, cwmwd, tŷ, neu pa beth ydyw ?" Ond os bydd Uawer dan angen- rheidrwydd i wneyd ymoíyniadau o'r fath yna, bydd yr enw i lawer eraill yn hysbys ddigon, a'r olwg arno yn adgyfodiad i l'iaws o hen adgofion y bydd yn ymgeledd i'r ysbryd eu cael. Ië, " coffa da am dano." I foddio rhywfaint ar gywreingarwch y sawl sydd mor anffort- unus a bod yn ddyeithr iddo, dywedwn gymaint a hyn wrth gychwyn: gweinidog nid anhynod, yn ardal Dinas Mawddwy, Meirionydd, perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, oedd Dafydd Dafis. Ganwyd ef yn 1794. Bu farw yn 1861, yn 67 mlwydd oed. A ydyw y darllenydd yn hoff o henafiaetb.au? Tra yn cyfeirio tua Chowarch, i ddilyn ycbydig ar hanes ein hen gyfaill yno ac mewn manau eraili, beth pe cymerem hamdien i edrych ychydig o'n hamgylch ar y dyffryn y gorwedda y manau hyny gerllaw iddo—dyffryn Dyfi ? Nid yw y dyffryn yn fawr mewn hŷd na llêd, ond y mae yn bur brydferth, a'i hanes yn bur ddyddorol. Y mae oddeutu Dinas Mawddwy fynyddau a bryniau y mae yn eitbaf hawdd gweled i gryn bellder o'u penau. Tybier ein bod yn cymeryd ein safìe "yn yr ysbryd" ar gopa un o honynt. Dyna y dyffryn yn rhedeg i gyfeiriad dê orllewinol, a'r Dyfi, " a'i dyfroedd gloewon fel y grisial," yn ymddolenu trwyddo. Prophwyd- odd y diweddar hynod Barch. Azariah Shadrach, mewn cân a gyfan- soddodd yn y fiwyddyn 1836, am enwogrwydd rhyfeddol i'r afon hon rywbryd yn y dyfodoì. Wele ychydig o'r pennillion:— Y mae Dyfì yn rhagori Braidd ar holl afonydd Cymru; Bydd yr afon hon yu hynod Mewn rhyw oesoedd maith i ddyfod. Fe ddaw lloDgau dirifedi Cyn b'o hir i afon Dyfi; lìhai o India, rhai o China, A. rhifeili mawr o Rwssia. Y mae yn mynyddau Meirion. Lawer o drysorau mawrion, Ac fe'u cludir lawr i Dyfi Yn dunelli dirifedi. 1869.—2. t