Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. DR. MOFFAT. n. Yr ydym yn awr yn brysio ymlaen i sylwi ar yr hyn a ystyria ein gwron fel prif orchestwaith ei fywyd, sef ei gyfieithiad o'r Ysgrythyrau i iaith preswylwyr Canolbarth Affrica Ddeheuol. Ar y cyntaf, yr oedd braidd yn ammheus o'i alluoedd ei hun at y gorchwyl, ac am hyny efe a anfonodd at Gyfarwyddwyr y Gymdeithas Fiblaidd yn Llundain, gan ddeisyf arnynt anfon allan yno rywun cymhwys i ymgymeryd â'r gwaith. Ei deimlad ef oedd, nad allai y Genadaeth lwyddo yno i bwrpas heb i hyn gael ei wneuthur; ac nid ammheuai ronyn na byddent hwythau yn hollol gydolygu yn y mater. Yn wir, yr oedd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas hono, yn fuan iawn ar ol ei sefydliad, wedi rhoddi prawf o'u dwys ofal dros íreintio pobl y cyfandir Affrican- aidd â chopìau o Air Duw. Gan fod yn wybyddus iddynt fod yr Arabaeg yn cael ei deall mewn amryw fanau yn Affrica, penderfynasant barotôi argraffiad newydd o'r Bibl yn yr iaith hono. Yr oedd y teith- ydd Affricananaidd enwog, Mungo Park, yn hynod ffafriol i'r amcan. Yr oedd ef ei hun wedi gweled rhai copiau o Esaiah, a'r Salmau, ynghyda llyfrau Moses, yn nwylaw y brodorion; a'r fath oedd y bri a roddid ar yr ysgrifeniadau hyn, fel y talesid, mewn un amgylchiad, yn ol ei dystiolaeth ef, swm cyfartal i ugain gini am un copi o Bum' Llyfr Moses. Ymgymerodd Dr. Carlyle, o Brif Athrofa Caergrawnt, âg arolygu y gwaith ar ei ddygiad allan; ond bu ef farw cyn llwyddo i gwblhâu yr amcan. Ond cymerwyd yr anturiaeth i fyny drachefn, ymhen amser, gan ei olynydd, yr hwn hefyd a gynnorthwyid gan un oedd yn Broffeswr Arabaeg yn Rhydychain. Nid heb deimlad o ddyddordeb dwfn y crybwyllir y ffaith hon genym, yn gymaint ag mai dyma y cam cyntaf a wnaed mewn amseroedd diweddar tuag at ledaen- iad cyffredinol yr Ysgrythyrau sanctaidd yn nghyfandir mawr Affrica. Yn anffodus, nid oedd y cyfieithiad hwn, yn ol barn Dr. Adam Clarke, Henry Martyn, ac eraill, yn ddigon da o lawer. Heblaw hyn, argyhoeddwyd meddyliau y Cyfarwyddwyr yn fuan, na ellid llesâu y cyfandir Affricanaidd ond i raddau cyfyng iawn, drwy anfon yno gop'iau 2 c