Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. Y DDAU EFELL; (Parhâd oW lìhifyn diwcddaf.) PENNOÜ X. " TMOAIS I FYN'D I FYD ARALL HEB HELP DOCTOR." Cerddodd y chwedl am yr anghydfod rhwng y ddau efell gyda'r cyflymdra hwnw a nodweddai bob newydd o'r fath mewn llànau bychain, yn enwedig cyn i newyddiaduron ddyfod yn bethau mor gyffredinol, a thrwy hyny ranu y dyddordeb mewn athrod rhwng y lleol a'r cyhoeddus. Daeth y newydd a'r achos o hono yn fuan i glustiau Mr. Duncombe, yr hwn a deimlai yn ofìdus iawn o'r herwydd ; i glustiau John Rhys, yr hwn nis gwyddai yn iawn pa beth i'w feddwl; i glustiau Nicodemus a Peter Prys, a'u meddwl hwy ydoedd mai y peth goreu yn nesaf i gladdu ydoedd prîodi. Dywed hen air, " mai llygriad y peth goreu ydyw'r Uygriad gwaethaf," ac y mae casineb brodyr yn ddíarebol am ei chwerwd'er; ar yr un egwyddor, o bob casineb brodyr, casineb efeilliaid ydyw y chwerwaf. Parhäodd yr elyniaeth gyndynaf rhwng John ac Ifan ar ol y noson y cymerodd yr ymraíael hono le yn y berllan. Ceisiodd Mr. Duncombe lawer tro eu cymmodi yn ei ddull addfwyn a thadol arferol:— " Chwi anghofìo eich tad a'ch mam," ebai ef; " nhw byw'n heddychol; Ysgrythyr dyweyd wrth bawb am beidio cweryla; cweryla.yn beryglus iawn; yr apostol Ioan yn dyweyd fel hyn :—' Yr hwn sydd yn casâu ei frawd, yn y tywyllwch y mae; * * * * ac ni ŵyr i ba le y mao yn myned, oblegid y mae y tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.' Chwi clywed beth mae'r Gwirionedd ei hun yn ei ddyweyd ?" A dagrau breision yn rhedeg i lawr ei ruddiau têg, gwasgai yr ymadrodd, " Pa le y mae yn myned," at eu hystyriaeth. " Nis gwyddoch chwithau'ch dau ddim beth fydd terfyn eich casineb. Ysgydwch ddwylaw, fel plant da; syrthiwch ar yddfau eich gilydd, ac ymgusenwch." 1875.—3. s