Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD, DAFYDD CADWALADE. GAN Y DIWEDDAH BARCH. LEWIS JONES, BALA. [Yii oedd yn dda genym dderbyn yr ysgrif ddyddorol a ganlyn i'w chyhoeddi yn y Tiiaetuodydd. Y mae yn werthfawr ar gyfrif y cymeriad hybarch y rhydd hanes mor ddifyrus ac adeiladol am dano, a theimla llawer yn hyfrydwch iddynt gael ei darllen o herwydd yr anwyldeb dwfn a goleddant at enw ei hysgrifenydd. Daeth i'n llaw gyda y nodyn a ganlyn oddiwrth ein cyfaill, Mr. Evan Davies, Bala:—"Yu hollol ddamweiniol daethum o hyd i sypyn lled fawr o lawysgrifau y diweddar Barch. Lewis Jones, o'r Bala, ymysg y rhai y cafwyd yr ysgrif yma, yr hon a ysgrifenwyd yn y flwyddyn 1835. Bwriadai yr awdwr ei dwyn allan niewn ífurf o Gofiant, a hyny fel y dywed ef ei hun oddiar y parch dwfn a goleddai at y pregethwr hynod o Benrhiw. Y rheswm na fuasai wedi rhoddi ei fwriad mewn gweithrediad oedd i'r teulu godi gwrth- wynebiad; mynent hawlio iddynt eu hunain yr hyn a ysgrifenasai Mr. Lewis Joues, a soniai ŵyres i'r lien bregethwr, sef Mrs. Jones, mam "Father Jones, Caernarfon, am wneyd cofiant iddo. Oddiar y dybiaeth y buasai yn dda gan bawb a adwaenent Mr. Lewis Jones, ac eraill a glywsant am dano, ynghyd a phawb sydd yn mawrhâu coffad- wriaeth Dafydd Cadwaladr, ei gweled yn argraffedig, yrwyf ynei haufon i'r Traethod- ydd. Yr oedd yr ysgrifenydd yn gyfaill raawr i'r TraetiîODYDD, a bu yn ohebydd cyson iddo am flynyddoedd."] HYSBYSIAD. Yk oedd arnaf awydd cael ychydig o hanes Dafydd Cadwaladr yn gyhooddedig, o herwydd, yn un peth, ei fod yn anwyl iawn genyf yn ei fywyd. Chwennychwn oddiar hyny dalu y niesur a allwn o deyrnged i'w goffadwriaeth. Hefyd, ystyrid ef gan y cyffredin yn un hynod mewn crefydd a defnyddioldeb, ac yn un hynod ac ar ei ben ei hun mewn llawer o bethau. Gan hyny, tybiwn mai boddhaol i amryw a fyddai gweled yr ychydig hyn o'i hanes. Hyuy sydd o hanes am ei ddyddiau boreuol a gafwyd gan mwyaf ganddo ef ei hun. Nid oes genyf ddim i'w ddyweyd yn ganmoliaeth i hyn o gofiant, na dim llawer mewn ffordd o gwynfan o herwydd ei ddiffygion, gyda fy mod yn gwybod fod Uawer o honynt yn perthyn iddo. A hwyrach na ddigia neb pe dywedwn yn debyg fel y dywedodd John Bunyan am un o'i lyfrau,—y neb y byddo hyn o gofiant yn gyrner- adwy ganddo, derbynied ef; a'r neb ni byddo hyn o gofiant felly yn ei olwg, gwnaed ei well. L. Jones. Bala, Mehcfin 1835. Nid oedd Dafydd Cadwaladr heb fesur o ystyriaeth ynghylch mater ei enaid a byd arall yn ieuanc iawn. Ac weitbiau penodai ar ryw arwydd iddo ei hun pa un ai yn y nef ai yn uffern y byddai ar ol marw; megys penodi ar bolyn mewn gwrych i daflu careg ato, ac os tarawai y polyn cai fyned i'r nef, ond os methai yn uffern y byddai. Trwy arwyddion fel hyn a'r cyffelyb y byddai yn ei brofì ei hun y pryd hyn. Ond