Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. EIRIOLAETH YR YSBRYD. Yr ydym yn cael ein dysgu yn eglur yn y Bibl fod erfyn dros y saint yn rhan o waith yr Ysbryd Grlân. Dyma ydyw y dystiolaeth ysgryth- yrol ar y mater hwn: " A'r un íîunud y mae yr Ysbryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddiom megys y dylem; eithr y mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni âg ocheneidiau annhraethadwy. A'r hwn sydd yn chwilio y calonau a ẃyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ol ewyllys Duw yn erfyn dros y saint" (Rhuf. viii. 26, 27). Yn yr un bennod a'r geir- iau hyn, fe briodolir amryw o bethau i'r Trydydd Person yn y Drindod sanctaidd, pa rai sydd yn dwyn perthynas agos a hanfodol âg iachawd- wriaeth pobl yr Arglwydd. Y mae yn arweinydd iddynt; canys y maent yn rhodio "yn ol yr Ysbryd" (adn. 1, 4, 14). Y mae "yn trigo ynddynt" (adn. 9, 11); ac y maent hwythau mewn cymundeb o'r fath agosaf âg ef—maent "yn yr Ysbryd" (adn. 9). Efe fydd y gweithredydd yn eu hadgyfodiad (adn. 11). Trwyddo ef y maent "yn marweiddio gweithredoedd y corff" (adn. 13); ac y maent yn derbyn tystiolaeth ganddo eu bod yn blant i Dduw (adn. 16). Ac yn y geiriau a ddyfynasom fe briodolir eiriolaeth ar ran y saint i'r un Person bendigedig. Y mae genym ddau ofyniad i'w hateb : yn gyntaf, Ymha beth y mae eiriolaeth yr Ysbryd yn gynnwysedig ? ac yn ail, Beth yw y gwahan- iaeth rhwng eiriolaeth yr Ysbryd ac eiriolaeth y Mab ì Cynnwysir yr oll sydd i'w draethu am yr athrawiaeth yr ydym yn awr wedi ei chym- eryd dan ystyriaeth yn yr ymchwiliad i'r ddau gwestiwn hyn. Yn y geiriau lle y gosodir i lawr yr athrawiaeth am eiriolaeth yr Ys- bryd, mae y gwirionedd fod yr Ysbryd Glân yn erfyn dros y saint yn cael ei nodi fel prawf ei fod yn cynnorthwyo eu gwendid, sef y gwen- did na wyddant pa beth i weddìo megys ag y dylent. A'r cynnorthwy sydd yn amlwg yn angenrheidiol ar bobl Dduw yn ngwyneb y diffyg neu y " gwendid " hwn ydyw, eu bod yn cael eu dysgu pa beth a pha fodd i weddio. Nid ydyw yn perthyn i ni yn bresennol i brofi fod f