Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. LLE A GWAITH BAEDDONIAETH MEWN ADDYSGIAETH. Anerchiad a draddodwyd gan Mr. Lewis Morris, M.A., Gymrawd Mygedol o Goleg yr Iesu, Ehydychain, Awdwr yr Epic of Hades, &c, wrth ranu y Gwobrwyon yn y Lẁerpool Institute, 1880. Pan ofynwyd i mi gyntaf draddodi anerchiad i chwi y prydnawn hwn, mi deimlais yn naturiol gryn anhawsder wrth feddwl am y dasg a osodid o'm blaen, canys yr ydwyf fel Dirprwywr yn cymeryd rhan mewn ymchwiliad i Addysg Uwchraddol ymysg eich cymydogion yn Nghymru, wedi clywed cryn lawer am y Lwerpool Institute yn ddiweddar, ac y mae yr hyn a glywais, rhaid i mi addef, wedi cynnyddu yn hytrach na lleihâu y parch â pha un yr edrychwn bob amser ar y Sefydliad mawr a defnyddiol hwn. Yr oeddwn yn teimlo hefyd fod yr alwad barhâus a Uwyr oedd ar fy amser yn ngwasanaeth y Ddirprwyaeth yn barotoad drwg i'm galluogi i wynebu cynnulliad diwylliedig, a digon tebyg beirniadol i raddau. Ar y llaw arall, wrth edrych ar enwau anrhydeddus y rhai—lawer o honynt yn fy rhagflaenu yn y Brifysgol— a fuant yn llywyddu yma ar achlysuron cyffelyb mewn blynyddoedd a aethant heibio, mi deimlais y byddai yn dda i minnau fy rhestru fy hun ymhlith cwmni mor ragorol; a chyda golwg ar y llafur y rhaid i mi yn fuan ail ddechreu arno, y byddai yn dda i mi gael gwell adnabyddiaeth o amcan a gweithrediad ymarferol y Sefydliad hwn. Dyna'r paham yr ydych yn fy ngweled yma heno, er nad heb gryn lawer o ammheuaeth pa un a oes genyf mewn gwirionedd ddim i'w ddywedyd wrthych. Yr ail anhawsder ydoedd gyda golwg ar destun; ac yma fe'm gwynebid gan rybudd difrifol—o ba ffynnonell nid wyf yn cofìo, ond yr wyf yn perffaith gytuno âg ef—fod "araith," a chan hyny yn llawer mwy, anerchiad, " bob amser yn ddirmygus oddieithr pan y mae yn angen- rheidiol." " Yn awr," meddwn, " os na wn ar ba destun i anerch fy ngwrandäwyr, ni all fod yn angenrheidiol i mi eu hanerch o gwbl." Àr yr adeg yna o anhawsder a digalondid, fe ddarfu i gyfaill gwerthfawr, un o'ch cyfarwyddwyr mwyaf gweithgar, awgrymu ar i mi fyned ymlaen a chyflenwi yr anerchiad tra rhagorol a draddodwyd i chwi gan fy