Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. Y GWARCHODLU ANWELEDIG YN DYFOD YN WELEDIG. Pan y deallir mai at adroddiad Ysgrythyrol y mae ein teitl hwn yn cyfeirio, nid anhawdd i bawb cydnabyddus â hanesyddiaeth yr Ys- grythyr Lân ddyfalu yn ebrwydd ein bod am fyned â'n darllenwyr at un o'r amgylchiadau neillduol a geir yn gysylltiedig âg Eliseus, y- prophwyd nodedig yn Israel, ac olynydd Elias, yr hynotaf o brophwydi yr Arglwydd. Y pryd hwnw yr oedd Benhadad, brenin Syria, yn ei ymryson rhyfelgar â Jehoram, brenin Israel, yn mynych anfon lluoedd milwr- aidd yn fynteioedd yspeilgar i wlad Israel, ac yn peri iddynt fyned mewn ffordd ddirgelaidd i leoedd y byddai brenin Israel yn arfer dyfod ei hunan, i'r dyben, tybygid, o ymosod arno a'i ddal yn ddisymwth. Ond yr oedd yr hoíl gynlluniau ystrywgar yn dyfod yn wybyddus i Eliseus fel gẃr Duw; ac wele efe o bryd i bryd yn anfon at frenin Israel rybudd amserol,—"Ymgadw rhag myned i'r lle a'r lle; canys yno y disgynodd y Syriaid." Josephus a ddywed fod Jehoram yn awr yn gorfod rhoddi heibio ymarfer â helwriaeth mewn canlyniad i hysbysiadau Eliseus. Pa fodd bynag, dyma brophwyd Duw yn achub brenin Israel rhag syrthio i ddwylaw y Syriaid "nid unwaith ac nid dwywaith." Mor werthfawr i wladwriaeth yw pobl dduwiol! Ië, y mae un dyn duwiol iawn, cyfaill arbenig i Arglwydd nefoedd a daear, yn gaffaeliad anmhrisiadwy i wlad neu deyrnas; gall efe, trwy gym- deithas â'r Hollalluog, ddylanwadu mwy er ei lles na llywiawdwyr ae na rhyfelwyr. Y mae brenin Syria, wrth gael ei ddyfeisiau a'i drefniadau y naill ar ol y llall yn troi yn fethiant, yn synu a chynddeiriogi, ac yn tybied y rhaid fod bradwr yn y cyfrin-gynghor, rhywun o fysg ei gynghoriaid ef, yn anfon dirgel hysbysrwydd i frenin Israel am yr hyn a gynlluniasid i'w erbyn. Ond y mae un o weinidogion y brenin yn gallu rhoddi iddo y gwir esboniad am yr aflwydd. Na, fy arglwydd frenin, nid oes yma ungwr bradwrus yn agos atat; "ond Eliseus y prophwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di yn nghanol dy ystafell weíy." Nid oes ddewin 1885. 2 c (Ji