Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRÀETHODYDD. DARLITHIAU Y PARCH. D. CRARLES DAVIES, M.A., AR GRISTIONOGAETH. Y DRYDEDD GYFRES. PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A CHYFUNDRAETH COMTE. II. PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A CHYMDEITHAS. Cynnwysa y gair cymdeithas neu society, fel y defnyddir ef yn y dar- lithiau hyn, ddau syniad. Un ydyw dynion fel personau, y llall ydyw eu hundeb a'u cysylltiad â'u gilydd, seiliedig ar eu meddiant o'r un natur ddynol. G-welir y cysylltiad yn y teulu, y genedl, a'r wladwr- iaeth. Teimlir ef yn nibyniad dynion ar eu gilydd, yn eu cyfrifoldeb i'w gilydd, ac yn yr holl deimladau o gariad ac edmygedd, o dosturi a gwarogaeth, a amlygir ganddynt tuag at eu gilydd. Ambell waith cyfyngir ystyr y gair i'r cyfeillgarwch sydd rhwng dynion â'u gilydd, neu i gyfarfodydd ymha rai y cyfarfyddant â'u gilydd er budd neu er pleser. Tra y mae cyfeillach bersonol yn un o weddau cymdeithas, nid yw y gair yn gyfyngedig i'r ystyr hwn. Cynnwysa bob cysylltiad, pob rhwymyn undeb ag y sydd rhwng dynion â'u gilydd. Y mae yr holl elfenau cymdeithasol ag sydd gan ddyn yn cyfateb i'r cysylltiadau cymdeithasol ag y mae ynddynt. Fe'i ganwyd ef ynddynt ac iddynt, ac nis gall ymryddhau oddiwrthynt. Pe ceisiai wneuthur hyny trwy dreulio bywyd meudwy, i'r graddau y llwyddai y collai hefyd ei ragoriaethau fel dyn. Fe ymneillduai nodweddau uchaf ei ddynol- iaeth o'i fewn ei hun o ddiffyg manteision i'w gweithrediad, ac yn unig- edd y galon hwy wywent, fel y gostynga rhai o'r blodau prydferthaf eu pen pan y machluda yr haul. Rhydd hyn i ni esiampl o gyfaddasrwydd greddf neu deimlad dyn i'r cyflwr y mae ynddo, ac i'r amgylchiadau o'r tu allan iddo. Ai y dyn a gyfaddasodd ei hun i'w amgylchiadau neu ei en- vironment, ys dywed y Sais, neu a ydyw y cyfaddasiad i'w olrhain yn ol i Feddwl mawr a doeth, yr hwn a blanodd y teimladau ynddo, ac a'i gosododd mewn amgylchiadau priodol i'w gweithrediad ? Os y cyntaf, o ba le y cafodd y dyn y gallu a'r duedd i gyfaddasu ei hun 1 Pa un a fyddai y mwyaf rhesymol i'w gredu, fod y gallu a'r duedd ganddo yn ddamweiniol neu yn angenrheidiol, neu o roddiad doethineb Meddwl yr Hwn a luniodd ddyn a'i amgylchiadau yn gyfaddas i'w gilydd ? Gadawn hyn i ystyriaeth y darllenydd. 1887. ' 2 h