Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

\r TRAETHODYDD. MOESOLDEB FEL RHYDDID. Mae y mater hwn yn hynod o eang a dyrys. Nid oes, yn wir, ond un ystyriaeth a gyfiawnhâ fy ngwaith yn delio â'r fath destun o fewn cylch mor fychan, sef fel y gallwyf gyfyngu fy hun at egluro un arwedd oddiwrth ba un y gellid dwyn ymlaen gyda mantais ymchwiliad i foeseg. Os gellir gwneyd hyn, fe ennillir llawer; oblegid y mae sicr- hau pwynt i edrych oddiarno mewn unrhyw ymofyniad gwyddorol yn cyrmwys yr addewid helaethaf, ie, yr unig un wirioneddol o wir wybod- aeth. Y pwynt yr edrychir oddiarno ydyw yr egwyddor sydd yn rhoddi cynnwys gwyddor; y mae ar yr un pryd yn ffynnonell ei ffeith- iau ac yn rhwymyn eu hundeb. Mewn trefn i sicrhâu yr amcan yma, ac ar yr un pryd i ochel cam- ddealltwriaeth, fe fydd yn ddoeth, can belled ag y byddo yn bosibl, gochel pob damcaniaethau ammheus, a dechreu gyda'r fath ystyriaethau ag na fyddo yn debyg y dadleuir yn eu herbyn. Ni ddywedaf gan hyny ddim, nes yr elom ychydig ymlaen, nac am ryddid, gair ag y byddem yn sicr o'i gymeryd mewn gwahanol ystyron, nac am ei gymhwysiad at fuchedd ddynol, pwnc am ba un y mae yn ddiammeu yr anghytunir. Fe allai na allem sicrhau gwell cychwyn-fan nag yn ymadroddion enwog Kant, y geiriau cyntaf o ba rai a gerfiwyd ar ei fedd yn Konigs- berg, ac a fyddant byw cyhyd ag athroniaeth foesol:— Y mae dau beth a lanwant y meâdwl âg edmygedd a pharchedigaeth byth- newydd a chynnyddol po fynychaf a mwyaf dyfal y meddyliom am danynt; y nefoedd serenog oddiuchod, a'r ddeddf foesol oddifewn. Ni raid i mi chwilio am danynt a damcaniaethu yn eu cylch fel pe byddent wedi eu gorchuddio â thywyllwch, neu yn yr uchelder tu hwnt i'm terfyngylch ; yr wyf yn eu gweled o'm blaen, ac yn eu cysylltu yn uniongyrchol â'r ymwybodolrwydd o'm bodol- aeth. Mae y cyntaf yn dechreu o'r Ue yr ydwyf ynddo yn myd allanol y synwyrau, ac yn eangu fy nghysylltiad ynddo i bellder annherfynol gyda bydoedd ar fydoedd a chyfundrefnau tu hwnt i gyfundrefnau, ac ymhellach, i amseroedd diderfynau eu symudiad cyfnodol, ei ddechreuad a'i barhâd. Mae yr ail yn dechreu allan o fy hunan anweledig, fy mhersonoliaeth, ac yn fy arddangos mewn byd sydd yn meddu gwir annherfynolrwydd, ond a ganfyddir yn unig gan y deall, a chyda pha un yr wyf yn cael allan fy mod niewn cysylltiad sydd, nid yn unig yn ddamwein- iol, ond hefyd yn gyffredinol ac angenrheidiol, fel yr ydwyf hefyd trwyddo, gyda'r 1888. z