Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

o-ì f%* Y TRAETHODYDD. . í DYDDLYFRAU EBEN FARDD. iii. 1838. Ion. 1. Braiâd yn wael, wedi cael cur tost yn fy mhen y dydd o'r blaen. Cychwyn i Chwilog tua 9 o'r gloch y boreu, cyrhaedd Llanarmon 12, ymlaen i Chwilog erbyn 1. Cael John Thomas yn ei wely ; rhoddi 5s. fel anrheg iddo oddiwrth berson arall anadnabyddus, gan ddangos nodyn i gadarnhau hyny mewn llaw ddyeithr. J. T. yn meddwl ei fod wedi ei ysgrifenu gan Fonedd- iges ! Tua hanner awr wedi 2, galwodd Dirwestwyr Pencoed a Chapel Helyg heibio, a chyfarfu J. T. a minnau a Laura Griffith hwynt yn y capel; gweddiodd dau, wedi i J. T. ddarllen pennod o'r Bibl. Ion. á. Gan fod genyf achos i fyned at y cerbyd, gwelais hen gydysgolor, Thos. Thomas, Tanllan, Tydweiliog. Anerchodd fi yn englyn Richard Charles, a rhoddes i mi 1 g. o wh. Yr oedd yn dew, ac ni fuaswn yn ei adwaen oni bae iddo fy anerch fel uchod. Galwodd Robt. Hughes yr hwn oedd yma yn talu ei rent, ac yfodd dê gyda mi. Pwysodd arnaf i fyned i'r society ar unwaith, heb oedi gydag esgusodion gwag a mân rwystrau, y rhai, fe allai, na chawn byth wedi eu symud yn llwyr. Ion. 6. Codi 4 y boreu, gwneyd tê a chychwyn i Gaernaifon tua 6, gyda fy nhad yn nghyfraith. Rhoddi £20 yn y Banc, derbyn £2 gan Mr. O. Jones. Cael llyfr yn anrheg ar Law Fer gan Mr. W. Pritchard ; prynu Etiquette for Oentlemen, ls., gan Potter. Ion. 7. Sul. Galwodd Robt. Hughes, yr hwn oedd yn myned i bregethu Capel ucha ; aethum gydag ef. Ion. 8. Dechreu yr ysgol yn fy nhŷ fy hun. Oer iawn, rhewog, gwynt mawr. Ion. 11. Ádduned. Yr wyf yn ymrwymo trwy gymhorth Duw i ochel diod gref, ac na fydd i mi yn y dyfodol wastrafîu mwy o arian nag a ymddengys yn angenrheidiol ar yr unrhyw. Ion. 13. Sadwrn, rhwng 6 a 7, galwodd Mr. Jones, Tea Dealer. Telais iddo ar unwaith ei fil, £11, a dychwelodd i mi 5s. Aethum gydag ef yn ei gig can belled â'r Sportsman, a disgynodd, gan adael y ceffyl yn y gig wrth y drws. Yr oedd Thos. Hughes yno pan aethom i mewn. Eisteddodd ef, fy nhad yn nghyfraith, Mr. Jones, a minnau i lawr yn gysurus, a galwodd Mr. Jones am 3 ch. o g. wedi ei gynhesu, gyda 2 1. o r. wedi ei gymysgu â phob un, diod ddi- guro; cyinerasom oll braidd ormod; yr oedd Mr. J., mae yn amlwg, yn fwy ymlaen na'r un o honom. Nid oeddwn yn hoffi peidio cymeryd rhan o gared- igrwydd Mr. Jones rhag anfoddhau fy nheulu; yr un pryd yr oedd yn ddrwg Senyf ei fod yn gwario cymaint, a'i fod yn bradychu cymaint o effeithiau y adiod, a'r ceffyl yn y gig yr holí amser, a gwynt y nos yn rhewllyd ao uchel. •Ni fum braidd erioed mewn amgylchiadau cyffelyb. Ni allaswn yn gyfleua wrthod am y rhesymau uchod, a rhai eraill. Os caf fy hun mewn amgylch- ìadau cyffelyb eto, mi a ymdrechaf yn breifat berswadio fy nghyfaill rhag y fath garedigrwydd anmhriodol a ffol. Ymadawsom am 9 o'r eloch, wedi mwynhau y owmni yn fawr. 1889. A