Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. ACHOSION ANIANYDDOL.* Ein hamcan yn yr erthygl hon fydd cyfleu o flaen y darlleuydd esboniad mor glir a syml ag y gellir o'r syniad am Achosion Anianydd- ol, a hyny yn eu natur ac yn eu dosraniadau. Rhaid i'n hymdrin- jaeth ar faes mor eang, o angenrheidrwydd, fod yn fyr ac elfenol. Wrth ymdrin â'r gangen hou o wybodaeth, defnyddir yr ymadroddion Achos, Achosiaeth, Egwyddor Achosiaeth, a Deddf Achosiaeth; a chyf- lwynir i sylw drwyddynt rai o brif gwestiynau ein hoes mewn gwydd- oniaeth ac athroniaeth. Beth all fod yn fwy boddhäol i'r meddwl ymchwilgar, ymhlith dyn- ion ac angelion, na'r gwaith o olrhain Effeithiau yn ol i'w Hachosion, yn ol dull yr à posteriori; neu, os rhaid yw, rhedeg gyda'r Achosion at yr Effeithiau, yn ol dull yr à priori? Ac onid mwy boddhäol eto fyddai cyrhaedd gwybodaeth ddyfnach na hon, trwy ddeall yr Achos ei hun yn ei wreiddyn, ei natur, a'i ddosraniadau ì Yn ei berthynas â'r meddwl dynol, gellir dyweyd fod y syniad am Achos mor hen â thoriad gwawr gyntaf ei ymchwiliad i arddangosion symlaf natur. Gorwedd egwyddor achos ac effaith ar y rhan fwyaf o'r llwybrau ar hyd pa rai y canfyddir gwirionedd, yn ogystal ag yn nghorff mawr ein hargyhoedd- ìadau gyda golwg ar y gorphenol. Pa le bynag yr ymladdwyd brwydr; pa bryd bynag y gorlifodd afon dros ei cheulenydd; pa bryd bynag y Uosgwyd coedwig yn Uudw; mewn gair, pa bryd bynag y canfyddwn effeithiau, yr ydym yn casglu, yn ol deddf y meddwl, fod iddynt eu hachosion. Os ydym yn credu ar dystiolaethau dynion fod dygwydd- ladau neillduol wedi cymeryd lle yn y gorphenol, yr ydym yn casglu h îv a *U yn weitnredyddion ynddynt yn cael eu hysgogi gan Syjjûelliadau tebyg i'r rhai sydd yn ysgogi dynion yn bresennol; neu wrth edrych ar ranau o wyneb y ddaear, yr ydym yn casglu fod y naill wedi cael ei waddodi yn ngwaelod y môr, a'r llall wedi ei daflu i fyny yn foreu gan ffrwydriad nwyon nerthol. Fel hyn, ar yr egwyddor o Achosiaeth, galluogir ni i gysylltu y presennol wrth y gorphenol, a'rjoll ,wÄ'mÌadwyd i>r erthygl ^on ddilyn ein herthygl ar " Y Pedair Gwyrth a Gwyddon- i h'îRAETHODyi>D 1887, tu dal. 273, &o. 1889. N